ABERCASTELL
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Rheolir yr Harbwr gan Gymdeithas Perchnogion Llongau Abercastell
Cyfleusterau
- Teleffon Cyhoeddus .
- Maes Parcio ar gyfer nifer fach o geir.
- Llithrfa yn arwain i’r tywod –
cerbydau gyriant 4 olwyn yn unig.
Disgrifiad
Hen harbwr masnach yw’r safle hwn, lle'r oedd llechi a
chynnyrch amaethyddol yn cael eu hallforio ar un adeg. Mae yma
hefyd olion hen odynnau calch yn deillio o orffennol diwydiannol
yr ardal. Roedd yr adfail mawr yn storfa rawn ar un adeg.
Nepell i ffwrdd mae Siambr Gladdu Carreg Samson a adeiladwyd dros
5000 o flynyddoedd yn ôl gan lwyth Neolithig a fu’n
defnyddio’r lle ar gyfer claddu dros 100 o’u meirwon.
Wrth ymyl yr harbwr mae maes parcio cyfyngedig iawn ar gyfer y
safle. Dylid cadw’r llithrfa’n glir ar bob adeg. Yn
ôl y cofnodion cynharaf, yma, dros 100 mlynedd yn ôl,
y glaniodd y morwr digymorth cyntaf i groesi môr Iwerydd,
ar ôl hwylio o America mewn cwch bychan agored.
Gweithgareddau
Pysgota. Mae’r gweithgaredd hwn yn boblogaidd ar hyd yr
arfordir. Dylid defnyddio llwybrau sefydledig i gyrraedd mannau
pysgota. Pan fydd cyfyngiadau dringo ar waith, gofynnir i bysgotwyr
osgoi’r ardal wrth ymyl y creigiau er mwyn peidio ag amharu
ar yr adar.
Plymio. Mae parcio’n broblem yn Abercastell, felly ni ellir
cymeradwyo’r ardal fel cyrchfan i glybiau neu grwpiau ar
ymweliad yn ystod cyfnodau prysur. Gwell cychwyn o Borthgain neu
Wdig.
Caiacio. Mae’r harbwr ei hun yn cynnig cyfleoedd padlo diogel,
cysgodol a diddorol. Mae cerrynt cryf oddi ar y pentir y tu hwnt
i’r harbwr a rhaid dangos cryn dipyn o barch at y rhan hon
o’r arfordir fel gweddill yr ardal.
Dringo. Er bod nifer o safleoedd dringo wedi’u cofnodi yn
yr ardal, nid oes unrhyw rai o’r rhain wedi dod yn boblogaidd
iawn ac mae llawer o’r amddiffyniadau sefydlog a’r
belai stanc wedi diflannu. Nid oes unrhyw rai ohonynt yn ymddangos
yn addas ar gyfer eu defnyddio gan grwpiau. Mae cyfyngiadau dringo
ar Ynys Deullyn ond nid ar Graig Ddu.
Manylion Pwysig
Dylid bod yn ystyriol wrth barcio ceir ac ni ddylid creu unrhyw
anawsterau mynediad wrth glwydi a thramwyfeydd.
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymwys
ar eu tir hwy i’r gorllewin o Abercastell. Dylid cydymffurfio
â’r rhain ar bob adeg.
Mae’r harbwr dan reolaeth Cymdeithas Perchnogion Cychod
Abercastell.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
TELEFFON CYHOEDDUS YN Y PENTREF
Previous Page
|