ABEREIDDI
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogaeth breifat. Cyngor
Sir Penfro sy’n gofalu am y toiledau a’r maes parcio.
Cyfleusterau
- Maes Parcio.
- Mae maes parcio uwchlaw Traethllyfn hefyd,
a gellir cael mynediad iddo drwy Fferm Ynys y Bari (codir tâl).
- Toiledau Cyhoeddus.
- Mynediad i Gadeiriau Olwyn i’r Morlyn
Glas (Blue Lagoon).
- Teleffon Argyfwng.
- Fan hufen iâ yn yr haf.
Disgrifiad
Mae’r safle’n gorwedd rhwng Abereiddi – Creigiau
Castell Coch a Chwareli Llanfryn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig (SDGA) ac Abereiddi – Creigiau Trwyncastell a’r
Morlyn Glas SDGA. Cafodd y safle ei ddynodi oherwydd ei bwysigrwydd
daearegol rhyngwladol. Mae’r llethrau arfordirol a chwarelyddol
yn arddangos creigiau sydd o darddiad gwaddodol a folcanig fel
ei gilydd. Datgelodd astudiaethau o’r safle fanylion am
yr amodau lleol 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae yma
ludw folcanig sydd wedi tarddu o Ben Strymbl ac Ynys Dewi (Ramsey),
safleoedd a oedd yn llosgfynyddoedd byw bryd hynny.
Mae’r ecosystemau morol sydd i’w gweld yn y Morlyn
Glas yn unigryw i dde orllewin Prydain.
Ceir yma doreth o rywogaethau sy’n brin yn y môr mawr,
ynghyd â digonedd o fwytawyr crog (oherwydd yr holl laid
sydd yn y morlyn) e.e. chwistrell fôr (sea squirt) a’r
mwydyn gwrychog (bristle worm). Ceir hefyd amrywiaeth o sbyngau,
gydag ambell un ohonynt yn rhai prin.
Creadigaeth o waith dyn yw’r Morlyn Glas a ffurfiwyd yn
dilyn y chwarela am lechi a fu yn yr ardal. Mae bythynnod y chwarelwyr
a’r adeiladau eraill sy’n perthyn i’r chwarel
ac sydd bellach yn anghyfannedd hefyd i’w gweld yma.
Gweithgareddau
Plymio: Mae’r Morlyn Glas yn lle da i blymio o’r
lan a gwneir defnydd da ohono pan fydd tywydd garw yn peri bod
lleoliadau mwy agored yn llai ymarferol. Mae ceisio lansio cychod
plymio sy’n fwy na 4m bron yn amhosibl - defnyddiwch Borthgain
neu Borthclais.
Brigo Tonnau/Caiacio: Yn eithaf poblogaidd ar gyfer y naill weithgaredd
a’r llall, ac mae modd defnyddio’r safle pan fydd
Niwgwl neu’r Porth Mawr (Whitesands) yn rhy wyntog, ond
gwyliwch y cerrynt terfol grymus ar yr ochr ogleddol a’r
greigres sydd y tu mewn i’r parth brigdonni! Mae’r
ardal yn fwyaf cyfeillgar pan fydd y llanw’n ganolig neu
ar ei isaf. Mae’r morlyn ei hun yn cynnig dwr diogel, cysgodol
ond dwfn i gaiacwyr newydd.
Arfordiro: Taith boblogaidd sy’n cael ei defnyddio gan
ganolfannau lleol o’r traeth allan i’r Morlyn. Mae
amgylchiadau yn mynd yn fwy difrifol wrth fynd ymlaen gyda chreigiau
brau, cerrynt llanw cryf ac nid oes yma un allanfa frys sy’n
ddidramgwydd.
Manylion Pwysig
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymwys
ar eu tir hwy a dylid cydymffurfio â’r rhain ar bob
adeg.
Mae sarnau a chreigiau cudd yn y Morlyn Glas, ac mae neidio i
mewn yn gallu bod yn beryglus iawn.
Rhaid i ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw fod yn ymwybodol
o symudiadau’r llanw ar y diwrnod hwnnw a sylweddoli y gall
rhai amodau llanw/hinsawdd achosi cerrynt peryglus iawn, (Yn arbennig
yn Nhraethllyfn).
Cytunodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chanolfannau Gweithgareddau
Awyr Agored ar y llwybrau arfordiro, a dylai unrhyw grwpiau presennol
neu grwpiau newydd sy’n dymuno defnyddio’r safle ar
gyfer dilyn llwybrau newydd gysylltu â’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol.
Ni ddylid symud llechi o adeiladau’r chwarel.
Gwaherddir morthwylio a symud samplau daearegol.
Mae’r traeth creigiog yn sensitif; ni ddylid symud samplau
oddi yno.
Mae’r Morlyn ei hun yn ardal bwysig lle bydd morloi yn magu
eu rhai bach a dylid osgoi aflonyddu ar y morloi a’r morloi
bychain hyn (Medi – Rhagfyr).
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
TELEFFON ARGYFWNG YM MAES PARCIO’R TRAETH
Previous Page
|