Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
About Us. Photography by Jane Warneford

Beth yw’r siarter?

Gallwch fwynhau ystod eang o weithgareddau awyr agored ymhlith cynefinoedd arfordirol a mewndirol Sir Benfro ac mae’r siarter hon yn dangos i chi sut y gallwch fwynhau’r chwaraeon hyn i’r eithaf heb niweidio amgylchedd pwysig yr ardal.

Ffurfiwyd grwp Siartr Awyr Agored Sir Benfro (SAASB) gan ganolfannau gweithgareddau lleol ynghyd â sefydliadau eraill sy’n gweithio ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae pob un o’r sefydliadau hyn yn pryderu am reolaeth hirdymor yr ardal ac yn awyddus i ddatblygu safonau ymarfer o safon uchel. Maent yn cydnabod y dylai defnydd cynaliadwy fod yn thema allweddol mewn gweithgareddau ac addysg awyr agored

Mae’r rhan fwyaf o Sir Benfro a’r Parc Cenedlaethol mewn dwylo preifat, ac mae’r grwp SAASB yn annog pawb sy’n frwd dros weithgareddau awyr agored i barchu a bod yn ystyriol o drigolion lleol a defnyddwyr eraill yn ogystal ag arfer dinasyddiaeth yn y safleoedd lle cynhelir gweithgareddau ac yn y rhannau hynny o’r sir y byddant yn ymweld â nhw.

Mae’r SAASB hon yn cynrychioli ymrwymiad i arfer da gan yr holl aelodau. Datblygwyd cod ymddygiad gan y grwp sy’n cael ei ddilyn gan yr holl aelodau. Mae pob sefydliad sydd wedi arwyddo’r SAASB yn cytuno fod y canlynol yn hanfodol i weithgareddau awyr agored cynaliadwy yn y sir ac maent yn awyddus i annog pawb i fabwysiadu’r egwyddorion hyn wrth ymweld â Sir Benfro.

MYNEDIAD

  • Mae pob darn o dir yn eiddo i rywun – os byddwn yn defnyddio safle, byddwn yn gofyn am ganiatâd y perchennog a byddwn yn dilyn cytundebau neu is-ddeddfau lleol.
  • Byddwn yn ystyriol o’r tirfeddianwyr, y trigolion a defnyddwyr eraill wrth barcio ac wrth osod cyfarpar – e.e. cadw llwybrau, mynedfeydd i ffermydd neu lithrffyrdd yn glir ar bob adeg.
  • Rhannau penodol yn unig o Sir Benfro sy’n cael eu heffeithio gan weithgareddau awyr agored. Byddwn yn trafod y goblygiadau gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol cyn ymestyn gweithgareddau i safleoedd neu ardaloedd newydd.
  • Byddwn yn cytuno gyda’r Parc Cenedlaethol ar y ffordd orau i reoli grwpiau ar safleoedd sy’n bod eisoes.
  • Byddwn yn cadw at hawliau tramwy a llwybrau a ganiateir dros diroedd a byddwn yn dilyn cytundebau lleol. Defnyddir llwybrau troed a llwybr yr arfordir at ddibenion cerddwyr yn unig.

DIOGELWCH A BOD YN YSTYRIOL

  • Byddwn yn sicrhau fod pob un o’n harweinyddion grwp wedi eu hyfforddi i safonau priodol o dan ganllawiau’r corff llywodraethol perthnasol.
  • Byddwn yn ceisio gwybodaeth leol sy’n berthnasol i’r gweithgaredd penodol.
  • Byddwn yn sicrhau nad yw ein gweithgareddau yn amharu nac ar foddhad pobl eraill nac mewn perygl o wneud hynny.

CADWRAETH

  • Mae nifer o safleoedd, planhigion ac anifeiliaid yn cael eu gwarchod gan y gyfraith ac maent yn fregus neu’n agored i’w niweidio os aflonyddir arnynt. Mae is-ddeddfau yn berthnasol ar dir sy’n eiddo i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni fyddwn yn codi neu’n dadwreiddio planhigion, byddwn yn osgoi aflonyddwch neu ddifrod a byddwn yn rheoli grwpiau yn unol â hynny.
  • Byddwn yn annog grwpiau, cydweithwyr a myfyrwyr i barchu a mwynhau cymeriad arbennig Sir Benfro - ei chynefinoedd, bywyd gwyllt, daeareg, archaeoleg ac adeiledd o waith dynion.
  • Ni fyddwn yn gadael arweddau parhaus mewn ardaloedd gwledig e.e. polion belai neu garneddau. Os bydd elfennau fel hyn yn hanfodol, byddwn yn trafod y mater ymlaen llaw gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a pherchennog y tir.
  • Byddwn yn gosod marciau neu sefydlynnau dros dro yn y fath fodd fel eu bod yn osgoi difrod a heb fod yn amharu ar eraill. Ni ddylid defnyddio bolltau dringo ar glogwyni naturiol yn Sir Benfro.
  • Ni fyddwn yn symud unrhyw enghreifftiau daearegol o’u safle ac eithrio fel samplau unigol fydd yn cael eu codi gan yr arweinydd at ddibenion arddangos.
  • Ni fyddwn yn symud pethau byw o safle ac eithrio er mwyn eu hadnabod a’u henwi a bydd unrhyw ddefnydd fydd wedi ei symud yn cael ei ddychwelyd i’r un lleoliad
  • Byddwn, ar bob achlysur, yn gadael safle yn lanach na phan fu i ni gyrraedd yno.
  • Mae cyfyngiadau penodol ar waith yn achos y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA).

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

Byddwn yn dwyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ogystal â’r sefydliadau cadwraeth a chymuned eraill i mewn yn gynnar i’r broses gynllunio neu wrth drefnu unrhyw weithgaredd, digwyddiad neu wyl awyr agored.

ADDYSG A DATBLYGU

  • Yn ogystal â dysgu cleientiaid sut i gynnal gweithgaredd, byddwn yn ceisio meithrin parch tuag at eraill a thuag at arfordir a chefn gwlad Sir Benfro.
  • Byddwn yn mynychu cyfarfodydd, sesiynau cyfarwyddo ac yn derbyn gwybodaeth oddi wrth Grwp Siartr yr Awyr Agored.
  • Rydym wedi ymrwymo i adolygu’r Grwp Siarter hwn yn rheolaidd a byddwn yn gweithio ar y cyd gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac eraill i wella rheolaeth safleoedd a gweithgareddau.

CYHOEDDIR IS-DDEDDFAU GAN Y CANLYNOL:

Awdurdod y Parc Cenedlaethol – 0845 3457275

Cyngor Sir Penfro – 01437 764551

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01646 661359

Cyngor Cefn Gwlad Cymru – 01646 624000

Gwarchodfa Natur Môr Sgomer – 01646 636736

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gyfrifol am ddiogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ynghyd â rhywogaethau planhigion, anifeiliaid ac adar sy’n cael eu gwarchod.


 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER