BAE WEST ANGLE
Meistr Tir
Ystâd yr Angle, mae’r rhan fwyaf o’r tir mewn
dwylo preifat.
Mae’r Maes parcio a’r safle picnic yn eiddo i Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac mae’r blaendraeth
dan brydles iddynt.
Mae’r tir a’r blaendraeth o gwmpas East Blockhouse
yn eiddo i’r fyddin (DERA).
Cyfleusterau
- Maes Parcio.
- Toiledau Cyhoeddus.
- Teleffon Cyhoeddus.
- Caffi.
- Maes Picnic.
- Ramp serth, cul i’r traeth (ddim yn
addas ar gyfer lansio cychod).
- Gellir mynd â chwch i’r gwesty ar Ynys Thorn;
dylid defnyddio’r teleffon cyhoeddus i gysylltu â’r
gwesty er mwyn iddynt anfon cwch.
Disgrifiad
Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig West Angle ac mae’n ymgeisydd ar gyfer Ardal Gadwraeth
Forol Arbennig. Mae adeileddau daearegol cymhleth ar y safle ac
mae’r rhain yn bwysig er mwyn deall cronoleg rewlifol a
rhyngrewlifol Cymru. Mae glannau creigiog West Angle yn gartref
i amrywiaeth eang o gynefinoedd blaen traeth. Dyma un o’r
safleoedd cyfoethocaf am fflora a ffawna yn ne orllewin Cymru.
Ymhlith yr organeddau pwysig sydd i’w gweld ar y safle mae’r
seren glustog (cushion star), ac mae un o’i rhywogaethau
ar gael mewn naw safle yn unig ym Mhrydain gyfan. Yma hefyd, ceir
ostracod morol prin iawn sy’n cael ei gysylltu fel arfer
â dyfroedd cynhesach Môr y Canoldir.
Gweddillion hen waith briciau yw’r simnai wrth ymyl y maes
carafannau. Roedd briciau yn cael eu cynhyrchu yma a’u hallforio
o’r traeth.
Mae’r fagnel yn y maes parcio yn pwyso 18 tunnell fetrig
a chafodd ei chodi o’r môr islaw Caer Bae’r
Capel (Chapel Bay Fort), rhan o’r amddiffynfa Fictoraidd
a godwyd yn yr ardal.
Adeiladwyd Ynys Thorn ym 1842, yr amddiffynfa Fictoraidd gyntaf
i’w chodi yn yr ardal.
Mae nodweddion archeolegol diddorol iawn i’w gweld yn yr
ardal o gwmpas Bae West Angle, ac yn eu plith safleoedd claddu.
Mae’n bosibl y cewch hyd i arteffactau ar y traeth. Dylech
roi gwybod i Archaeoleg Cambria neu Barc Cenedlaethol Arfordir
Sir Benfro am y rhain.
Manylion Pwysig
Mae’r traeth a’r blaendraeth yn destun astudiaethau
di-rif ac maent o bwysigrwydd gwyddonol. Os gwelwch yn dda, cymerwch
ofal arbennig pan fyddwch yn cynnal unrhyw weithgaredd yn yr ardal
hon. Ni ddylid symud dim o’r pyllau trai na’r draethlin.
Ceir mynediad o’r maes parcio ar hyd llwybr yr arfordir.
Cadwch at y llwybr, os gwelwch yn dda. Mae hyn yn bwysig iawn
wrth fynd dros dir y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol y gall llwybr yr arfordir ymylu
ar greigiau serth.
Dylid cadw golwg fanwl ar blant ar bob adeg
Nid oes allanfa sy’n addas ar gyfer y cyhoedd oddi ar lwybr
gorllewinol yr arfordir am 6 chilomedr.
Dylai ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo
â’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Ni ddylid cynnau tanau ac ni chaniateir gwersylla ond ar safleoedd
penodol.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am lanhau’r traeth.
Bydd y grwp Coastcare yn cynnal sesiynau glanhau’r traeth
yn wirfoddol.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Archaeoleg Cambria - 01558 823121
- Ynys Thorn - 01646 641225
- Cyngor Sir Penfro - 01437 764551
- Grwp Coastcare - 01646 661225
MEWN ARGYFWNG DEFNYDDIWCH Y TELEFFON CYHOEDDUS YN Y MAES PARCIO
Previous Page
|