Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Canwio Caiacio

Canwio/Caiacio

Mae arfordir Sir Benfro yn ymestyn am dros 185 milltir gan roi i’r sir rai o gyfleoedd mwyaf ysblennydd Cymru ar gyfer canwio a chaiacio, tra bod y môr fyth ymhell i ffwrdd. Ceir lleoliadau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu ac mae nifer o sefydliadau Siartr yr Awyr Agored yn cynnig sesiynau rhagflas mewn canwau a chaiacau agored. Bydd nifer o’r aelodau hefyd yn darparu ar gyfer rhwyfwyr mwy profiadol. Ceir yma nifer helaeth o faeau bach a chilfachau sy’n ardaloedd cysgodol ac sy’n gyforiog o fywyd gwyllt, a phob un ohonynt yn rhoi cyfle i deuluoedd fwynhau archwilio’r arfordir o’r dwr.

Mae digon o ddwr agored y môr ar gael yma i’w archwilio gan rwyfwyr caiac. Gallwch archwilio’r morlin cyfan bron, yn ogystal â’r pentrefi bach arfordirol, gan fod yn sicr bod gennych rywle i fynd iddo am rywbeth i’w fwyta neu le i aros dros nos. I fyny’r aber hefyd mae Dyfrffordd Aberdaugleddau, sy’n llwybr rhwyfo poblogaidd a didrafferth. I’r rhai mwy egnïol, mae’r traethau sy’n wynebu tua’r Gorllewin yn rhoi cyfle rhagorol i rwyfo caiac ar ewyn y môr. Mae nifer o’r traethau, megis Freshwater West, Neigwl (Newgale) ac Aberllydan (Broadhaven) hefyd yn fannau poblogaidd ar gyfer brigdonni ac fe’u defnyddir yn rheolaidd ar gyfer y naill gamp a’r llall. Ac yn olaf, i’r rhwyfwyr mwyaf mentrus, mae creigiau enwog Pont y Geist (The Bitches). Mae’r brigiad creigiog hwn sydd i’w weld yn y culfor rhwng Ynys Dewi (Ramsey Island) a Phenrhyn Tyddewi (St. David’s Head) yn creu tonnau parhaol a cherrynt cryf sy’n cael eu defnyddio ar gyfer campau acrobateg. Defnyddiwyd y lleoliad hwn hefyd fel man cynnal nifer o gystadlaethau Rodeo. (D.S. Gall Pont y Geist fod yn beryglus ac felly’r rhwyfwyr mwyaf profiadol yn unig ddylai fentro yno. Byddai’n ddoeth i chi hefyd fynnu arweiniad/cyngor lleol cyn mentro allan.)

Wrth badlo cwch ar hyd yr arfordir neu’r ddyfrffordd byddwch hefyd yn dod ar draws rhywfaint o fywyd gwyllt a chynefinoedd Sir Benfro. Mae rhan helaeth o’r sir a’r arfordir yn fannau cadwraethol pwysig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. O’r herwydd derbyniodd yr ardal nifer o ddynodiadau - Arfordir Treftadaeth, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, safleoedd Ramsar yn ogystal â Gwarchodfa Natur Forol ac Ardal Forol Gadwraethol Arbennig. Gan fod nifer o’r rhywogaethau yn cael eu gwarchod dan ddeddfwriaeth, byddai’n ddoeth i chi gael cadarnhad o leoliad yr ardaloedd hyn wrth drefnu unrhyw wibdeithiau, er mwyn osgoi unrhyw aflonyddwch diangen.

Pan fyddwch yn caiacio neu’n canwio, dylech hefyd sicrhau eich bod yn dilyn canllawiau diogelwch priodol oherwydd gall amgylchiadau ar y môr newid yn gyflym. Mae codau ymddygiad lleol hefyd ar gael oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro sy’n benodol ar gyfer gweithgareddau canwio a chaiacio. Fel arall, chwiliwch am y trefnwyr gweithgareddau lleol sydd wedi ymrwymo i Siartr yr Awyr Agored gan fod ganddynt yn aml weithgareddau a fydd yn bodloni eich angen.

Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn padlo cychod yn Sir Benfro:

  • CANIATÂD perchnogion tir – mae hwn yn hanfodol cyn i chi fynd i rwyfo. Gall perchnogion tir hefyd fod yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd yn bwysig i chi a’r amgylchedd.
  • GOFYNNWCH am unrhyw godau ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r cyfan, mae rheswm da dros eu bodolaeth.
  • PENDERFYNWCH ar eich man cyfarfod a’ch llwybr cyn i chi ddechrau rhwyfo; dylech osgoi aflonyddu ar fywyd gwyllt lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer o’r llwybrau padlo poblogaidd, yn arbennig yn ystod y tymhorau nythu a magu (Adar Mawrth - Gorffennaf, Morloi Awst - Chwefror). Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt yn ddiangen; gallech fod yn cyflawni trosedd griminal!
  • GADEWCH yr ardal fel y cawsoch hi.
  • SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol o’r ardal o’ch cwmpas yn ystod eich cyfnod rhwyfo a dylech osgoi glanio ar draethau lle mae morloi a’u rhai bach, ac yn uniongyrchol islaw ysgafellau nythu.

Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705 555 999


Previous Page

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER