CARREG Y BARCUD
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogion preifat.
Cyfleusterau
- Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y safle hwn
ac mae’r maes parcio agosaf yng Nghaerbwdi; mae’r
ffôn cyhoeddus agosaf ar y ffordd i Dyddewi.
- Nid oes unrhyw faes parcio cydnabyddedig yng
Ngharreg Y Barcud a dylai ymwelwyr wneud pob ymdrech i osgoi
creu aflonyddwch i’r trigolion lleol drwy gadw mannau
goddiweddyd, mynedfeydd a llwybrau mynediad yn glir.
- Cynghorir ymwelwyr i barcio ym maes parcio’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghaerbwdi.
Disgrifiad
Ceir mynediad i Garreg y Barcud fel arfer ar hyd y llwybr cyhoeddus
yn Nhrelerw neu ar hyd Llwybr yr Arfordir o’r maes parcio
yng Nghaerbwdi. Mae Trelerw yn fferm weithredol; mae ffordd y
pentrefan yn breifat a rhaid ei chadw’n glir ar gyfer peiriannau
amaethyddol. Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Benrhyn
Tyddewi neu Bentir y Sant (St. David’s Peninsula) sy’n
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a gafodd ei dynodi felly
oherwydd bod yno ddeunydd o ddiddordeb daearegol a biolegol. Mae
hefyd yn gorwedd oddi mewn i’r Ardal Gadwraeth Arbennig
arfaethedig.
Mae Arfordir Penmaendewi o bwys cenedlaethol oherwydd ei lystyfiant
morol, ac yn arbennig rhostir y forgraig, glaswelltir y forgraig
a chymunedau mewn agennau/ar ysgafellau.
Mae Henebion rhestredig i’w gweld ym Mae Caerbwdi ynghyd
â safle’r gaer i’r gorllewin.
Mae merlod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pori ar y safle.
Gweithgareddau
Dringo. Mae Carreg y Barcud yn cynnig cyfleoedd da i ddringo
llechfaen a gellir cyrraedd pob llwybr bron heb fod angen abseilio.
Dros y blynyddoedd, mae’r priddoedd mân ar ben y graig
sy’n cynnal y glaswelltir blodeuog hardd wedi erydu oherwydd
iddynt gael eu sathru. Wrth ddringo neu orffwys os gwelwch yn
dda, ceisiwch gadw at arwyneb y graig galed yn hytrach na’r
tywyrch sydd heb eu niweidio.
Manylion Pwysig
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymwys
ar eu tir hwy a dylid cydymffurfio â’r rhain ar bob
adeg.
Rhaid i ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw fod yn ymwybodol
o’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw.
Dylai dringwyr ddefnyddio llwybrau sefydledig er mwyn cael mynediad
i lwybrau.
Dylid osgoi ‘garddio’r llwybrau.
Ni ddylid parcio ceir ar y ffordd sy’n arwain at Drelerw;
dylai ymwelwyr barcio yn y maes parcio yng Nghaerbwdi.
Mae’r clogwyni yn cael eu cynnwys yn Nheithlyfr Penfro gan
Gyngor Mynydda Prydain.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
TELEFFON ARGYFWNG YM MAES PARCIO’R TRAETH
Previous Page
|