Dringo
Mae Sir Benfro yn cynnig cyfleoedd dringo rhagorol ac amrywiol
i bawb. O ddringo clogwyni i ddechreuwyr i ddringo technegol,
gradd E7, mae’r dewis yn enfawr. Yng Ngogledd Sir Benfro,
gellir dringo clogwyni môr ar lechfeini neu waliau byr.
Yn y De, nodweddir y prif fath o ddringo gan ymestyniadau o galchfaen
safonol. Mae’r llwybrau naill ai’n lleiniau sengl
neu ddwbl ac mae digon ohonynt. Gallwch ddod o hyd i rai llechfeini
haws ond mae’r llwybrau gan mwyaf yn rhai gradd E gan gynnwys
rhai E7 sy’n anodd dros ben, e.e. yn Llam yr Heliwr (Huntsman's
Leap). Llwybrau llanw yw’r mwyafrif ar draws y sir ac fel
arfer gellir cyrraedd atynt drwy abseilio. Yn y de, yn ardal cadwyn
Castellmartin, mae cyfyngiadau dringo ar waith. Cyfyngir ar fynediad
ar adegau er bod mwy o lwybrau yn cael eu hagor. Cyn dringo’r
cadwyni, rhaid i chi’n gyntaf fynychu sesiwn gyfarwyddo
ar ddiogelwch gan y Weinyddiaeth Amddiffyn/Parc Cenedlaethol.
Mae nifer o’r llwybrau wedi’u cynnwys yn y gwahanol
lyfrau tywys sy’n rhoi mwy o fanylion am y drefn raddio.
Cynigir sesiynau ar gyfer dechreuwyr a phersonau brwdfrydig hefyd
gan nifer o’r trefnwyr a gallant rhoi cyngor gwerthfawr.
Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn dringo yn Sir
Benfro:
- ADOLYGWCH eich man cyfarfod
a’ch llwybr cyn dringo; dylech osgoi unrhyw fywyd gwyllt
lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae sawl rhywogaeth
o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer o’r llwybrau
dringo poblogaidd, yn arbennig yn ystod y tymhorau nythu a magu.
Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt yn ddiangen; gallech
fod yn cyflawni trosedd griminal!
- GOFYNNWCH am unrhyw godau
ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion
da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r
cyfan, mae rheswm da dros eu bodolaeth.
- CANIATÂD perchnogion
tir – mae hwn yn hanfodol cyn i chi fynd i ddringo. Gall
perchnogion tir hefyd fod yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd
yn bwysig i chi a’r amgylchedd.
- SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol
o’r ardal o’ch cwmpas ar bob adeg yn ystod eich
cyfnod yn dringo.
- GADEWCH yr ardal fel y cawsoch
hi. Ewch â chymaint o sbwriel ategolion dringo ag sy’n
bosibl adref gyda chi.
Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt
sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch
â’r RSPCA ar 08705 555 999
Previous
Page
|