Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Arfordiro

Arfordiro

Gweithgaredd cyffrous i grwpiau yw hwn. Datblygodd o drawsdeithio lefel y môr – ffordd ddifyr o ddringo a fu’n boblogaidd yn Sir Benfro ers yr 1960au. Mae arfordiro, fel arfer, yn cynnwys cymysgedd o ddringo creigiau, nofio, sgramblo a neidio, gyda’r cyfan yn digwydd ychydig fetrau uwchlaw neu islaw lefel y môr.

Mae hyn i gyd yn gryn dipyn o hwyl, yn arbennig felly ar ddiwrnod heulog pan fydd yr awyr yn las a thonnau’r môr yn donnau ysgafn, ond ni ddylid ei danbrisio. Gall newid sydyn yn y tywydd, y llanw neu ymchwydd y môr droi unrhyw drip yn fenter ddifrifol lle gall anafiadau ei gwneud hi’n anodd iawn dianc o waelod y clogwyn. Mae cyfarpar addas, ac yn fwy pwysig fyth, gwybodaeth fanwl o’r amgylchedd, cymorth cyntaf a chyflwr y môr, yn hanfodol os ydych am sicrhau trip llwyddiannus.

Mae arfordir Sir Benfro yn lleoliad gwych ar gyfer y gweithgaredd hwn ac mae’n cynnig nifer o wahanol gyrchfannau sy’n amrywio o glogwyni fertigol sy’n disgyn yn syth i’r môr i gildraethau ac ogofâu cysgodol. Y creigiau, y bywyd gwyllt a’r amgylchedd digyffwrdd yw rhai o brif atyniadau’r gweithgaredd, a rhaid parchu pob un o’r rhain er mwyn caniatáu bod defnydd cynaliadwy yn cael ei wneud o’r lleoliadau arbennig iawn sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Bydd nifer o’r canolfannau gweithgareddau awyr agored yn cynnig sesiynau arfordiro ar wahanol lefelau ac yn darparu’r holl gyfarpar diogelwch hanfodol ar eich cyfer, gan gynnwys dillad plymio, helmedau a chymhorthion hynofedd, yn ogystal â’r wybodaeth fydd yn eich galluogi i werthfawrogi’r cynefinoedd arbennig hyn y byddwch yn eu gweld o bersbectif unigryw.

Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn arfordiro yn Sir Benfro:

  • GOFAL – mae hwn yn hanfodol. Trefnwch unrhyw arfordiro drwy ganolfannau gweithgareddau lleol. Mae hyn yn fwy diogel oherwydd mae’r cyfarpar a’r wybodaeth leol, sy’n gwbl hanfodol, ganddyn nhw ac maen nhw’n gallu darparu’r gweithgaredd fydd yn fwyaf addas ar gyfer eich gallu.
  • SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol o’r ardal o’ch cwmpas ar bob adeg yn ystod eich cyfnod yn arfordiro.
  • GADEWCH yr ardal fel y cawsoch hi, bob tro.

Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705 555 999


Previous Page

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER