Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Beicio Beicio Mynydd

Beicio / Beicio Mynydd

Mae Sir Benfro yn dod yn gyrchfan fwyfwy poblogaidd i feicwyr. Daw nifer cynyddol o feicwyr i’r ardal i fwynhau beicio ar ffyrdd ac oddi ar ffyrdd ynghanol rhai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf ysblennydd yn y wlad. Cewch ddianc rhag prysurdeb y priffyrdd a chyrchfannau’r ymwelwyr er mwyn profi dull mwy hamddenol o deithio wrth i chi ddilyn y lonydd troellog sy’n croesi ar hyd ac ar led y sir. Mae yma lwybrau sydd wedi’u mapio’n dda sy’n addas ar gyfer dechreuwyr a grwpiau fel ei gilydd. P’un ai a ydych yn dymuno mwynhau’r golygfeydd, cael ychydig o ymarfer corff neu fynd i rywle, mae beicio yn Sir Benfro yn brofiad bythgofiadwy. Gall hyd yn oed y beiciwr profiadol ddod o hyd i rywbeth fydd yn cynnig her.

Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn beicio yn Sir Benfro:

  • CANIATÂD perchnogion tir – mae hwn yn hanfodol cyn i chi fynd i feicio. Gall perchnogion tir hefyd fod yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd yn bwysig i chi a’r amgylchedd.
  • SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol o’r ardal o’ch cwmpas ar bob adeg yn ystod eich cyfnod yn beicio a dylech osgoi crwydro oddi ar lwybrau penodedig. Noder: Nid oes hawl beicio ar Lwybr yr Arfordir.
  • PENDERFYNWCH ar eich man cyfarfod a dewch o hyd iddo cyn i chi fynd. Dylech osgoi bywyd gwyllt lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer o’r llwybrau beicio a’r llecynnau poblogaidd, yn arbennig yn ystod y tymhorau nythu a magu (Adar Mawrth - Gorffennaf, Morloi Awst - Chwefror). Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt yn ddiangen; gallech fod yn cyflawni trosedd griminal!
  • GOFYNNWCH am unrhyw godau ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r cyfan, mae rheswm da dros eu bodolaeth.
  • GADEWCH yr ardal fel y cawsoch hi.

Mae mwy o wybodaeth am lwybrau ar gael drwy ymweld â www.pembrokeshiregreenways.co.uk

Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705 555 999

 


Previous Page

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER