PORTH MAWR (WHITESANDS) A PHENRHYN TYDDEWI
Meistr Tir
Penrhyn Tyddewi - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Maes Parcio – Cyngor Dinas Tyddewi
Cae Capel y Traeth a Thrwynhwrddyn (Ram’s Nose) - Parc Cenedlaethol
Arfordir Sir Benfro
Cyfleusterau
- Maes Parcio - Tâl yn daladwy i gyngor
Dinas Tyddewi (tymhorol yn unig).
- Toiledau.
- Achubwyr Bywyd - Tymor yr Haf yn unig, gyda
Man Cymorth Cyntaf pan na fydd yn dymor yr haf.
- Bydd aelodau o Glwb Achub Bywyd Porth Mawr
yn gweithio yn ystod penwythnosau prysur o bosibl.
- Caffi.
- Teleffon.
- Llithrfa.
- Mae Hostel Ieuenctid yn Llaethdy.
Disgrifiad
Porth Mawr. Stormdraeth a dderbyniodd statws baner las am ansawdd
ei ddwr. Mae’n agored i’n patrwm hinsawdd - gwyntoedd
o’r gorllewin yn bennaf - ac mae’r môr yn ymchwyddo
ar brydiau. Mae traeth ei hun yn gadarn iawn o safbwynt ecolegol
ac yn gwbl abl i wrthsefyll y pwysau gweithgareddau hamdden. Fodd
bynnag, mae’r twyni crair sydd yn y cefndir yn fregus iawn
ac mae’r creigiau a’r penrhyn isel i’r gogledd
yn gartref i bryf copyn sy’n brin iawn yn ogystal â
bod yn bwysig iawn o safbwynt daearyddol a botanegol.
Yn y gorffennol, byddai cychod bychain wedi marchnata o’r
traeth ac mae gweddillion capel Celtaidd a gysegrwyd i Sant Padrig
i’w weld drws nesaf i’r maes parcio.
Mae’r traeth, y twyni a’r creigiau isel ar y ddwy
ochr dan ofal y Parc Cenedlaethol.
Penrhyn Tyddewi. Llecyn gwyllt a dramatig. Mae creigiau igneaidd
caled y pentir amlwg hwn yn gartref i adar a phlanhigion sy’n
brin yn genedlaethol ac mae’r ardal gyfan yn safle o ddiddordeb
gwyddonol arbennig. Mae’r cymunedau o blanhigion bregus
ac agored iawn i’w niweidio sydd i’w gweld mewn agennau/ar
ysgafellau o ddiddordeb arbennig (ddringwyr, nodwch hyn, os gwelwch
yn dda)
Bu dynion yn byw yma ers cyn cof ac mae olion siambr gladdu a
chaer bentir yn dal yn amlwg. Mae’r ffaith iddynt gael eu
cydnabod yn henebion rhestredig yn tanlinellu eu pwysigrwydd.
Mae’r tir yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
a chaiff ei reoli’n bennaf fel gwarchodfa.
Defnyddir y safle yn helaeth fel man astudio gan fyfyrwyr daeareg;
dylai grwpiau sy’n defnyddio’r ardal gymryd gofal.
Gwaherddir morthwylio a symud samplau.
Tir cwmin yw rhan helaeth o’r safle.
Gweithgareddau
Brigo Tonnau. Cyrchfan frigdonni sydd wedi hen ennill ei le;
mae Porth Mawr fel pe bai ar waith tuag amser penllanw. Gall y
cerrynt terfol oddi ar Drwynhwyrddyn fod yn gryf iawn pan fydd
hi’n benllanw a dylid eu trin â pharch. Gwyliwch rhag
y clogfeini mawr arunig sydd ar begwn gogleddol y traeth yn arbennig
a gweddillion hen long wedi dryllio sydd i’w gweld yn rhan
ddeheuol y traeth pan fydd y llanw ar drai. Gall y traeth a’r
morglawdd fynd yn orlawn o bobl yn ystod cyfnodau prysur. Rhwng
misoedd Gorffennaf ac Awst, bydd achubwyr bywyd tymhorol yn gweithredu
system o gylchfaeo. Er mwyn arbed gwrthdaro gydag unrhyw frigdonwyr
a chaiacwyr, cynhyrchwyd taflen sy’n cynnwys nodyn yn tynnu
sylw at arferion a moeseg brigdonni. (Ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth,
gofalwr y maes parcio neu gaffi’r traeth).
Caiacio. Mae caiacau yn gwneud defnydd cynyddol o Borth Mawr.
Gall dechreuwyr a grwpiau mawr fodd bynnag fod yn berygl i ddefnyddwyr
eraill ac ar ddiwrnodau prysur mae Niwgwl yn ddewis boddhaol a
llawer mwy diogel.
Dringo. Ceir nifer o greigiau sy’n wynebu’n bennaf
tua’r gogledd a’r gorllewin ar Benrhyn Tyddewi. Mae
nifer o’r llwybrau yn rhai eithaf difrifol ac nid yw’n
hawdd dod o hyd iddynt. Mae rhan helaeth o’r pentir yn anaddas
ar gyfer dringwyr ac ni fydd grwpiau hyfforddi yn defnyddio’r
safle.
Mae cyfyngiadau tymhorol – cyfnodau pan fydd adar yn nythu
- ar waith ar Craig Coetan, Mur Cenhinen a Sarn Gwylwyr y Glannau
(Coastguard Ledge) (o 1af Chwefror – 31ain Gorffennaf. Am
fanylion pellach, gweler teithlyfrau’r ardal neu’r
arwyddion ar y safle).
Mae’r teithlyfrau canlynol yn cynnwys manylion am yr ardal:
‘Climber Club Guide to Wales - Pembroke’ gan John
Harwood, Dave Viggars.
Pysgota. Ceir safleoedd pysgota poblogaidd ym Mhenrhyn Tyddewi,
Porthmelgan a Penlledwen; mae llwybrau sefydledig yn arwain at
y safleoedd hyn. Dylid defnyddio’r rhain yn hytrach na thorri
llwybrau newydd.
Manylion Pwysig
Cyfyngir parcio cerbydau a threlars i’r maes parcio ym
Mhorth Mawr. Gall cerbydau ddefnyddio’r traeth yn unig ar
gyfer lansio a dychwelyd cychod. Ceir mynediad cyhoeddus i Benrhyn
Tyddewi ar hyd llwybr yr arfordir er bod nifer o lwybrau troed
yn ei gwneud hi’n bosibl mynd ar deithiau cerdded cylchol.
Nodiadau
Porth Mawr
Gwaherddir cwn ar Draeth Porth Mawr rhwng Mai - Medi.
Os gwelwch yn dda, defnyddiwch y system gylchfaeo pan fydd honno
mewn grym.
Gall pysgod Gwehydd (Weaver fish) fod yn berygl, yn arbennig pan
fydd y llanw yn isel.
Dysgwch a chadwch at foeseg brigdonni, os gwelwch yn dda.
Penrhyn Tyddewi
Defnyddiwch y toiledau cyn mynd â grwp allan ar y pentir,
os gwelwch yn dda
Dylai Grwpiau defnyddwyr rheolaidd gysylltu â’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol neu’r Parc Cenedlaethol i drafod manylion pellach
am y safle cyn ei ddefnyddio.
Mae ‘garddio’ yn dinistrio cymunedau planhigion gwerthfawr
mewn agennau/ar ysgafellau a dylid osgoi hyn.
Wrth roi cyfarwyddiadau neu drefnu llwybrau, cadwch at arwyneb
y creigiau caled os gwelwch yn dda, yn hytrach na’r ardaloedd
lle ceir llystyfiant.
Peidiwch â symud creigiau neu gerrig sy’n gysylltiedig
â chaer y pentir.
Ar ôl cyfnodau o dywydd sych, byddwch yn ofalus iawn nad
ydych yn dechrau tân.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Archaeoleg Cambria - 01558 823121
- Hostel Ieuenctid Llaethdy - 01437 720345
TELEFFON ARGYFWNG Y TU MEWN I ADEILAD ACHUB BYWYD PORTH MAWR
TELEFFON CYHOEDDUS YN Y MAES PARCIO
Previous Page
|