Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Pysgota

Pysgota

Gweithgaredd poblogaidd sy’n digwydd ar hyd y flwyddyn yn Sir Benfro yw pysgota. Mae holl amrywiaeth a safon y cyfleoedd sydd ar gael yma gyda’r gorau sydd yn unman yng Nghymru gyfan, os nad ym Mhrydain. Gan fod y môr yn amgylchynu tair ochr y sir, nid yw’r pysgod fyth yn bell i ffwrdd. Ychwanegwch at hyn yr afonydd, y pyllau, y llynnoedd a’r cronfeydd dwr, a fyddwch chi fyth yn bell iawn oddi wrth bysgota o safon arbennig.

Ar yr arfordir, cewch gyfleoedd pysgota rhagorol rhwng creigiau neu oddi ar draethau. Dyma’r math o bysgota sy’n fwyaf poblogaidd yn y sir ac mae’n cynnwys pysgod fel Bas, Macrell, (Mackerel), Gwrachen Fôr (Wrasse), Lleden (Flatfish) ymhlith nifer o rai eraill. Mae rhai o’r llecynnau mwyaf poblogaidd i’w gweld ar neu yn ymyl y traethau euraid sydd wedi’u lleoli yma ac acw ar hyd yr arfordir. Cewch bysgota yn gwbl ar eich pen eich hun bron ynghanol ardaloedd pysgota eraill sy’n parhau’n ddigyffro a pheidiwch â synnu na chewch ddarn cyfan o’r arfordir i chi eich hun!

Os mai pysgota gyda ffrindiau sy’n mynd â’ch bryd, neu os ydych yn mwynhau mynd am rywogaethau mwy, fel Penfras (Cod), Congren (Conger) neu’r Honos (Ling), yna mae nifer o bysgodfeydd ar gael o gwmpas yr arfordir. Mae’r rhain wedi’u canoli yn arbennig o amgylch Dyfrffordd Aberdaugleddau, Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod. Mae nifer o’r trefnwyr hyn yn aelodau o’r grwp Cod Morol Sir Benfro ac maent wedi bod yn gweithredu yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd. Mae’r wybodaeth helaeth sydd ganddynt am safleoedd pysgota yn y dyfnfor ac ar hyd yr arfordir fel arfer yn sicrhau taith bysgota lwyddiannus.

Ceir cyfleoedd rhagorol i bysgota gêm hefyd yn Sir Benfro – yn y 4 afon sydd yn y sir ac yng nghronfa ddwr Llys-y-frân. Mae’r Gleddy Ddu a’r Gleddy Wen (Eastern and Western Cleddau), Afon Teifi a’r Nyfer i gyd yn cynnig sawl rhywogaeth o bysgod gêm fel y Gleisiad (Sewin), y Brithyll Brown (Brown Trout) a’r Eog (Salmon). Pysgota dan drwydded oddi wrth gymdeithasau pysgota neu berchnogion tir preifat, e.e. Cymdeithas Pysgotwyr Nyfer, Cymdeithas Brithyll y Teifi neu Gymdeithas Pysgotwyr Sir Benfro, yw rhan fwyaf o’r pysgota hyn. Mae’r gronfa ddwr yn cynnig 212 erw o bysgota am amrywiaeth o Frithyll Seithliw (Rainbow Trout) a Brithyll Brown gwyllt. Cynhaliwyd nifer o gystadlaethau Cenedlaethol a Rhyngwladol yn y gronfa hon sy’n eiddo i Hyder. Rheolir y gronfa hefyd gan y cwmni cyfyngedig cyhoeddus hwn. Mae yma gychod ar gael yn ogystal â mynediad eang i’r anabl, canolfan ymwelwyr a bwyty. Mae gan y sir gronfeydd eraill â physgod gêm sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau pysgota o safon uchel.

Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn pysgota yn Sir Benfro:

  • CADARNHEWCH a oes angen Trwydded neu ganiatâd pysgota arnoch cyn i chi ddechrau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn pysgota dwr mewndirol neu’n croesi tir er mwyn cyrraedd safle. Gall perchnogion tir hefyd fod yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd yn bwysig i chi a’r amgylchedd.
  • GOFYNNWCH am unrhyw godau ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r cyfan, mae rheswm da dros eu bodolaeth.
  • SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol o’r ardal o’ch cwmpas a defnyddwyr eraill ar bob adeg. Dylech osgoi bywyd gwyllt lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer o’r sarnau pysgota, y llynnoedd a’r afonydd poblogaidd, yn arbennig yn ystod y tymhorau nythu a magu (Adar Mawrth - Gorffennaf, Morloi Awst - Chwefror). Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt yn ddiangen; gallech fod yn cyflawni trosedd griminal!
  • GOFALWCH nad ydych yn colli offer pysgota ac ewch ag unrhyw ddeunydd pacio, leiniau wedi torri, bachau neu lithwyr adref gyda chi ar ddiwedd y dydd gan adael yr ardal yn well nag oedd pan gyrhaeddoch yno.

Ymhlith y Codau Ymddygiad mae’r Cod Cadwraeth ar gyfer Pysgotwyr Môr sydd ar gael oddi wrth Cadw Cymru’n Daclus.

Mae mwy o wybodaeth am safleoedd pysgota ar gael yn www.visitpembrokeshire.com

Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705 555 999

 


Previous Page

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER