Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Sir Benfro

FRESHWATER WEST

Meistr Tir

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ystâd yr Angle a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cyfleusterau

  • Meysydd Parcio ar begwn gogleddol a phegwn deheuol y traeth.
  • Teleffonau Argyfwng (ar ochr y bloc toiledau)
  • Bar byrbrydau yn gwerthu diodydd a bwydydd poeth ac oer, wedi’i leoli yn y maes parcio ar begwn deheuol y traeth.
  • Toiledau Cyhoeddus.
  • Llethr cul i’r traeth.

Disgrifiad

Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Clogwyni a Thwyni Tywod Castell Martin a Thwyni Broomhill (Broomhill Burrows SDGA). Mae rhan o’r safle (i’r de) hefyd yn gorwedd oddi mewn i Ardal Warchod Arbennig ac ardal Ymgeisydd ar gyfer Ardal Gadwraeth Arbennig. Ymhlith y nodweddion sy’n arbennig o bwysig ac y dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol ohonynt mae chwilen y draethell (strand line beetle - Nebria complanata) sydd i’w gweld ymhlith y malurion ar Draeth Frainslake. Mae’r Cornicyll Cadwynog (Ringed Plover) yn nythu ar y ddaear o amgylch Frainslake. Yn y twyni ceir cen cerrig (Lichens), chwilod a gwyfynod. Mae’r gornchwiglen (Lapwing) yn bridio yn y llac twyni ac yno hefyd gwelir ymlusgiaid fel y wiber (adder), neidr y gwair, madfall a’r slorwm (slow worm).

Dyma’r llain ehangaf o dwyni tywod yn Sir Benfro ac mae’r llystyfiant llac twyni helaethaf a’r mwyaf amrywiol i’w weld yma. Collwyd nifer o fannau eraill oherwydd erydiad, cloddio tywod a pharcio ceir. Bydd toreth o flodau gwyllt yn tyfu yma yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf.
Mae rhesymau daearegol hefyd dros i’r safle gael ei ddynodi yn SDGA - ceir yma enghreifftiau da o ffawtiau, uniadau, croeswasgiadau a gwyriadau sydd i’w gweld yn amlwg yn yr hen dywodfaen coch.
Yn ddiweddar, adnewyddwyr yr hen gaban gwymon sydd ar begwn deheuol y traeth. Mae hysbysfwrdd i’w weld y tu mewn.

Manylion Pwysig

Gwybodaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae’r tir yn gorwedd yn agos at faes tanio byw'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae baneri coch ac arwyddion yn dynodi man cychwyn y maes sydd hefyd yn ymestyn i mewn i’r môr. Mae’r ardal hon yn beryglus, mae’n cynnwys deunydd byw ac ni ddylid mynd i mewn iddi oni fyddwch wedi derbyn cytundeb oddi wrth y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys Traeth Frainslake.

Gwybodaeth Arall
Mae cryn dipyn o ardal y twyni tywod ac ardal y mewndir yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth yn gymwys i’r ardaloedd hyn. Dylai grwpiau sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y tir hwn gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyntaf.
Dangoswch barch tuag at yr ardal, os gwelwch yn dda. Mae’r twyni tywod yn sensitif i sathriadau; cadwch at y llwybrau; peidiwch â chynnau tân na gwersylla yn y twyni. Dylid osgoi sathru ar ardaloedd lle mae blodau gwyllt yn tyfu ac ni ddylid symud y planhigion a’r blodau ar unrhyw adeg. Ni ddylid defnyddio’r twyni fyth fel mannau llithro.
Mae weiren bigog noeth yn y twyni; dylai ymwelwyr gadw at y llwybrau.
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o’r clogwyni serth y mae llwybr yr arfordir yn eu dilyn i gyfeiriad y gorllewin.
Nid oes allanfa gyhoeddus oddi ar lwybr yr arfordir am 6 chilomedr tua’r gorllewin.

Rhaid i ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw fod yn ymwybodol o’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw. Mae cerrynt a llanw peryglus yn y safle ac nid yw’n addas ar gyfer ymdrochi.
Dylai brigwyr tonnau a’r rhai sy’n canwio ar y môr fod yn ymwybodol o bobl eraill sy’n defnyddio’r dwr. Dylent hefyd fod yn ymwybodol o’r ffaith fod yr arfordir yn gorwedd oddi mewn i Ardal Perygl Môr Gwersyll Castell Martin.
Dylid cadw cwn dan reolaeth fel na fyddant yn aflonyddu ar bobl eraill, ar y bywyd gwyllt neu anifeiliaid.
Ni chaniateir gwersylla yn yr ardal.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar y ffyrdd neu ar lwybrau ceffylau.
Dylid parcio yn y meysydd parcio penodol yn unig ac nid ar ymyl y ffordd neu yn y twyni.
Nid oes yma unrhyw gyfleusterau ar gyfer lansio cychod; ni chaniateir cerbydau ar y traeth neu yn y twyni. Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am lanhau’r traeth.

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348 837860
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – 01437 764636
  • Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau – 01646 690909
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
  • Gwersyll Castell Martin – Yn ystod Cyfnodau Tanio (Twr) - 01646 662336, Oriau Golau Ddydd (Swyddfa’r Maes Tanio) - 01646 662287, Wedi Oriau (Ystafell Warchod) - 01646 662280
  • Cyngor Sir Penfro - 01437 764551

TELEFFON ARGYFWNG YM MAES PARCIO’R DE (AR Y BLOC TOILEDAU)

Previous Page





 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER