Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Sir Benfro

PORTH STINAN (ST. JUSTINIAN)

Meistr Tir

Mae’r blaendraeth wedi’i osod ar brydles i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r gweddill mewn dwylo preifat yn bennaf; mae’r ddwy lithrfa yn eiddo i’r RNLI.

Cyfleusterau

  • Mae yma fannau parcio ar gyfer nifer cyfyngedig o geir a maes parcio gorlif yn ystod tymhorau prysur.
  • Dyma fan cychwyn nifer o deithiau pleser a chychod sy’n mynd i Ynys Dewi.
  • Toiledau Cyhoeddus.
  • Gwasanaeth Bws Gwibio o Dyddewi bob awr (Gorffennaf ac Awst).

Disgrifiad

Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Penrhyn Tyddewi, ac mae’n ymgeisydd ar gyfer Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) ac Ardal Diogelwch Arbennig (ADA)
Cafodd ei ddynodi oherwydd ei bwysigrwydd daearyddol a biolegol. Mae’n gymwys fel Ardal Diogelwch Arbennig oherwydd bod sawl pâr o frain coesgoch yn bridio yma. Mae hefyd yn safle bridio pwysig i’r morlo llwyd.
Mae’n darparu angorfa hanfodol mewn dwr dwfn i’r ardal a dyma’r prif fan hwylio i Ynys Dewi. At hyn, mae’n bwysig o safbwynt gwibdeithiau ymwelwyr a bad achub Tyddewi. Adeiladwyd gorsaf y bad achub ym 1911 ac mae bellach yn Adeilad Rhestredig.

Dywedir fod y safle ar un adeg yn lanfa pererinion ac mae olion Capel Sant Stinian (St Justinian - Heneb Restredig) i’w weld uwchlaw’r cildraeth. Nid oes mynedfa gyhoeddus i’r safle hwn.
Mae’r ardal hon o ddiddordeb arbennig i gerddwyr, dringwyr a’r sawl sy’n canwio ac mae tagfa draffig yn beth cyffredin. Yn hytrach nag adeiladu mwy o feysydd parcio ar y rhan hyfryd hon o’r arfordir, mae ymdrechion ar y gweill i fabwysiadu cynllunio Parcio a Theithio ac i annog pobl i rannu cludiant. Cofiwch fod yn rhaid i fad achub yr RNLI gael mynediad ar bob adeg rhag ofn y bydd argyfwng. Ystyriwch hyn wrth barcio – efallai mai dod i’ch cynorthwyo chi y byddan nhw.
Os ydych yn caiacio neu’n arfordiro, dylech wybod mai dyma un o’r ymestyniadau arfordirol mwyaf peryglus yn y DU gan fod yma amrediad llanwol eang, cerrynt grymus, geirwyau môr, pyllau tro a cherrynt trolif ansiartredig.

Gweithgareddau

Caiacaio. Tra bydd caiacwyr profiadol sydd wedi arfer ag afonydd gradd 4+ yn dewis llanw’r Gwanwyn i badlo Pont y Geist (The Bitches), sy’n greigres enwog, gwell i’r ymwelydd sy’n dod am y tro cyntaf neu’r rhai sydd heb fod yn gyfarwydd â phadlo ar y raddfa hon eu hosgoi. Os gwelwch yn dda, rhannwch y tonnau chwarae gyda’r cwch RIB mawr sy’n cario ymwelwyr. Mae’r fordaith o gwmpas Ynys Dewi yn un ardderchog ond cadwch yn glir o ysgafellau nythu’r adar rhwng Chwefror a Mehefin ac o’r traethau lle mae’r morloi yn magu eu rhai bach yn ystod y tymor Awst-Tachwedd, os gwelwch yn dda. Mae Ynys Dewi yn eiddo i’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) ac fe’i rheolir fel Gwarchodfa Natur. Am fanylion pellach, gweler y rhestr cysylltiadau.

Dringo. Ceir nifer o glogwyni bach yn ardal Porth Stinian sy’n cynnig cyfleoedd dringo llechfeini gradd ganolig, ond sy’n fwy difrifol oherwydd rhaid cael mynediad iddynt drwy abseilio. Sicrhewch nad oes rhaffau yn croesi Llwybr prysur yr Arfordir, os gwelwch yn dda.

Manylion Pwysig

Mae mannau parcio cyfyngedig ar y safle. Gofynnir i grwpiau sy’n defnyddio’r safle gyfyngu ar nifer y cerbydau sy’n defnyddio’r fynedfa a’r mannau parcio a gwahoddir hwy i ystyried gollwng grwpiau ac yna parcio mewn man arall. Er mwyn trefnu taith i Ynys Dewi a theithiau pleser eraill, cysylltwch â’r Ganolfan Groeso i Dwristiaid yn Nhyddewi.
Dylai pawb sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo â’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw a dylent sylweddoli y gall y llanw yn y darn hwn o fôr fod yn beryglus – gweler taflen Ganwio’r Parciau Cenedlaethol am fwy o fanylion.

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348 837860
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – 01437 764636
  • Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau – 01646 690909
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
  • Archaeoleg Cambria - 01558 823121
  • RSPCA - 08705 555 999
  • RSPB - 0836 535733

 

Previous Page





 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER