LYDSTEP
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfleusterau
- Maes Parcio ar y pentir.
- Teleffonau Cyhoeddus ar gael ym mhentref Lydstep
ac yn y parc gwyliau.
- Gellir mynd â chadair olwyn i’r
pentir ond mae’r tir yn gallu bod yn arw.
Disgrifiad
Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i’r Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig - Lydstep Head i Dwyni Dinbych-y-pysgod. Mae’r
safle o ddiddordeb arbennig oherwydd y llystyfiant sydd i’w
weld yma ar y forgraig yn ogystal â’r nifer fawr o
blanhigion prin ac anghyffredin, gan gynnwys pump o rywogaethau
sy’n rhai prin yn genedlaethol.
Mae’r clogwyni yn safleoedd nythu i’r Chwilog (Guillemot)
a Gwalch y Penwaig (Razorbill). Mae pâr o Frain Coesgoch
(Chough) yn nythu ar y Pentir. Ymhlith y blodau sydd i’w
gweld yn y gwanwyn mae Clustog Fair (Thrift), Serennyn y Gwanwyn
(Spring Squill), Plucen Felen (Kidney Vetch) a’r Teim Gwyllt.
Ar hyn o bryd, mae anifeiliaid yn pori ar y safle er mwyn cadw’r
prysgwydd dan reolaeth ac annog y rhostir morol i ffynnu.
Mae’r ardal yn boblogaidd gyda cherddwyr; gwneir defnydd
mynych o ‘Mother Carey’s kitchen’. Dylech nodi
fod cyfyngiadau dringo cytunedig mewn grym; dylai ymwelwyr edrych
ar yr hysbysebion ar y safe a thaflenni’r Parc Cenedlaethol
- ‘Cyfyngiadau Cytunedig ar Ddringo Clogwyni’. Mae
moeseg ‘dim bolltio’ yn berthnasol i bob morgraig
yn yr ardal. Mae ‘garddio’ yn dinistrio cymunedau
bregus mewn agennau ac ar ysgafellau a dylid osgoi hyn.
Mae’r hen chwarel i’r dwyrain o’r safle yn addas
ar gyfer abseilio; dylai unrhyw grwpiau sy’n dymuno defnyddio’r
ardal gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gosodwyd polion belai ar y safle ond rhaid cael caniatâd
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn gosod unrhyw bolion newydd.
Cytunwyd ar y llwybrau arfordiro sydd i’w defnyddio o amgylch
y clogwyni; dylai grwpiau newydd sy’n dymuno defnyddio’r
safle gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dylid
trafod unrhyw lwybrau newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r safle yn boblogaidd fel man pysgota oddi ar y creigiau.
Dylid bod yn ofalus wrth ddynesu at safleoedd pysgota a dylid
defnyddio unrhyw lwybrau sy’n arwain at y safleoedd yn hytrach
na chreu llwybrau newydd.
Manylion Pwysig
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymwys
yn yr ardal. Mae’r rhain wedi eu gosod ar hysbysfyrddau
yn y maes parcio.
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o’r clogwyni serth a’r
ffurfiant creigiog a’r perygl sydd ynghlwm wrthynt.
Ni ddylid torri, sathru ar na chodi planhigion na blodau o’u
gwraidd. Ni ddylid cynnau tanau ac nid oes hawl gwersylla yn yr
ardal.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Dylai ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo
â’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw. Dylid bod yn ofalus
wrth archwilio ogofâu’r safle.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
MAE TELEFFONAU WEDI EU LLEOLI YN Y PARC GWYLIAU AC YM MHENTREF
LYDSTEP
Previous Page
|