MAENORBYR
Meistr Tir
Rheolir y maes parcio a’r blaendraeth gan Awdurdod Parc
Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae gweddill y tir mewn dwylo
preifat.
Cyfleusterau
- Maes parcio (codir tâl yn ystod yr haf)
- Parcio am ddim yn y gulfan wrth ymyl y ffordd
lle mae cyfleusterau parcio i’r anabl.
- Teleffon Argyfwng yn y maes parcio ar y bloc
toiledau
- Toiledau Cyhoeddus
- Teleffon Cyhoeddus yn y pentref
- Cynhelir Diwrnodau Gweithgareddau Traeth yn
ystod yr haf, dan ofal Staff y Parc Cenedlaethol a darperir
amryfal weithgareddau ar gyfer teuluoedd. (Gweler Coast to Coast
am fanylion).
Disgrifiad
Mae’r ardal yn gorwedd oddi mewn i’r Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig sy’n ymestyn o Freshwater East hyd at
Skrinkle Haven. Mae’r safle o ddiddordeb arbennig oherwydd
y clogwyni Tywodfaen Coch sydd i’w gweld yma ynghyd â
ffosilau planhigion, cynefinoedd clogwyni arfordirol a nifer o
blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin. Mae’r SDGA
yn cynnwys y twyni tywod, y llethr arfordirol a’r blaendraeth
sy’n ymestyn tua’r mewndir.
Ar y clogwyni, gwelir safleoedd nythu’r Brain Coesgoch (Cough)
a’r Hebog Tramor (Peregrine), tra bod Gwylan y Graig (Fulmar)
a’r Gigfran (Raven) i’w gweld yma hefyd.
Y tu cefn i’r traeth, mae rhes o dwyni tywod gyda ffens
o’u blaen. Defnyddiwyd hesg y môr (marram grass) a
blannwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sefydlogi’r
ardal hon. Os gwelwch yn dda, cadwch yn glir o’r ardal sydd
wedi’i ffensio.
Mae’r Castell, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif,
mewn dwylo preifat ac mae ar agor i’r cyhoedd.
Uwchlaw’r Bae gwelir adfail hen felin ac mae enghraifft
wych o golomendy ac odyn galch i’w gweld yn y cyffiniau.
Mae Maenorbyr yn boblogaidd fel lle brigdonni a chanwio. Cynhelir
cystadlaethau a digwyddiadau yma a gall gordyrru ddigwydd yn yr
ardal. Dylai’r rhai sy’n canwio a’r rhai sy’n
defnyddio cychod fod yn ymwybodol o’r ffaith fod y dyfroedd
arfordirol hyn ar brydiau yn cael eu cynnwys yn Ardal Perygl Môr
maes tanio Maenorbyr, felly cysylltwch â Gwersyll Castell
Martin er mwyn cadarnhau amserau tanio.
Mae’r safle yn boblogaidd fel man pysgota, oddi ar y traeth
yn ogystal ag oddi ar y creigiau ar lan y môr.
Yn ystod rhai mathau o dywydd/dan rai amodau llanw, ceir isgerrynt
garw yn y bae.
Manylion Pwysig
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o ymyl y graig a’r holltau
sydd ynddi a’r peryglon sy’n gysylltiedig â
hyn. Mae llwybr yr arfordir yn mynd yn agos iawn i ymyl y graig
mewn rhai mannau, felly dylid cymryd mwy o ofal.
Mae’r traeth a’r blaendraeth yn sensitif; ni ddylid
mynd â samplau oddi yno.
Gall pyllau glan môr fod yn fannau llithrig; dylech fod
yn ofalus.
Dylid cadw golwg fanwl ar blant ar bob adeg.
Dylai ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo
â’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth er mwyn osgoi aflonyddu ar bobl,
bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Ni ddylid cynnau tân ac ni chaniateir gwersylla, ond ar
safleoedd sydd wedi eu pennu.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am lanhau’r traeth..
Mae maes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn i’r dwyrain
o’r safle; nid oes unrhyw fynediad cyhoeddus i’r tir,
y clogwyni nac ychwaith i’r ochr sy’n wynebu’r
môr, yn ystod cyfnodau tanio.
Rhaid cadw’r glwyd wrth fynedfa’r traeth yn glir ar
bob adeg er mwyn caniatáu mynediad mewn argyfwng. Mae allwedd
frys i’r glwyd ar gael gan arolygwr y maes parcio ac yng
Ngwesty’r Castlemead.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Gwersyll Castell Martin – Yn ystod Cyfnodau Tanio (Twr)
- 01646 662336, Oriau Golau Ddydd (Swyddfa’r Maes Tanio)
- 01646 662287, Wedi Oriau (Ystafell Warchod) - 01646 662280
TELEFFON ARGYFWNG YN Y MAES PARCIO
Previous Page
|