MARTIN’S HAVEN
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfleusterau
- Maes Parcio (Codir tâl yn yr Haf) .
- Toiledau Cyhoeddus.
- Teleffon Argyfwng.
- Mannau Gwybodaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt
Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Disgrifiad
Mae rhan o’r safle yn gorwedd oddi mewn i Barc Ceirw (Deer
Park) Marloes sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
(SDGA) ac mae’r safle cyfan yn rhan o Warchodfa Natur Forol
Sgomer (sy’n ymestyn hyd at linell y penllanw ac yn cynnwys
yr ardal forol). Mae’n cynnwys nodweddion o ddiddordeb daearyddol
a biolegol fel ei gilydd.
Ceir yma gen cerrig sy’n bwysig yn genedlaethol ac mae’r
lle yn frith o dwmpathau morgrug sy’n drysorau botanegol.
Mae Brain Coesgoch yn bwydo ar y llystyfiant agored a defnyddir
y blaendraeth gan forloi magu.
Defnyddir yr harbwr fel man cychwyn teithiau mewn cychod i ac
o gwmpas Sgomer, gweler ‘Coast to Coast’ neu Ganolfannau
Croeso i Dwristiaid am fanylion amserau hwylio.
Mae hwn hefyd yn safle lansio poblogaidd gyda grwpiau plymio,
Roedd y Parc Ceirw caerog yn rhan o Ystâd Sain Ffraid; mae’r
wal ei hun yn rhan o’r SDGA. Mae’n rhedeg ochr yn
ochr â’r arglawdd oes haearn sydd i’w weld ar
ochr orllewinol y sianel a ffurfiwyd gan ddwr tawdd rhewlifol.
Mae’r sianel wedyn yn ffurfio harbwr Martin’s Haven.
Mae’r Parc Ceirw hefyd yn Heneb restredig.
Manylion Pwysig
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw perchennog y safle ac mae
is-ddeddfau’r ymddiriedolaeth honno yn gymwys. Rhaid i ymwelwyr
gydymffurfio â’r rhain ar bob adeg.
Dylid cadw cerbydau lansio cychod yn glir o’r ffordd sy’n
arwain at yr harbwr. Dylid eu gadael yn y maes parcio ar ôl
y lansio.
Mae anifeiliaid yn pori yn y Parc Ceirw; dylid cadw cwn dan reolaeth
ar bob adeg.
Ni ddylid cynnau tân ac ni chaniateir gwersylla, ond ar
safleoedd penodol.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol y gall llwybr yr arfordir ymylu
ar ochr y clogwyn a bod angen gofal.
Dylai pawb sy’n defnyddio parth y llanw fod yn ymwybodol
o’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw a dylent wybod fod cerrynt
peryglus yn gallu digwydd o dan rai amodau llanw a hinsawdd arbennig.
Mae hyn yn berthnasol iawn o gwmpas yr ynysoedd.
Dylai’r rhai sy’n defnyddio Gwarchodfa Natur Forol
Sgomer ddilyn y cod ymddygiad sy’n cael ei ddarparu gan
Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn ei ‘ganllawiau i ddefnyddwyr’
y warchodfa.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru
- 01239 621212
- Archaeoleg Cambria - 01558 823121
TELEFFON ARGYFWNG WRTH YMYL Y BLOC TOILEDAU
Previous Page
|