Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Gweithgareddau Awyr Agored

Gweithgareddau Awyr Agored

Canwio / Caiacio
Dringo
Arfordiro
Brigo Tonnau
Cerdded
Beicio / Beicio Mynydd
Pysgota
Codes of Conduct

Fel ymwelydd â Sir Benfro neu un o drigolion y sir, gallwch gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau. Mae’r awyr agored yn amgylchfyd ac yn brofiad na ddylid ei golli ac y dylid gwneud yn fawr ohono. Mae rhan helaeth o Sir Benfro yn cynnig cynefinoedd digyffwrdd a golygfeydd ysblennydd ac mae hyn i gyd yn ychwanegu at y mwynhad sydd i’w gael wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd o’ch dewis, beth bynnag y bo. Mae yma rywbeth at ddant pawb, boed yn daith gerdded hamddenol ar hyd yr arfordir neu yn y mynyddoedd, neu’n rhywbeth ychydig yn fwy egnïol fel arfordiro neu frigo ar donnau’r môr. Os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig ar weithgaredd neu os ydych yn hen law wrthi, gall Sir Benfro ddarparu ar eich cyfer chi.

Lluniwyd Siartr Awyr Agored Sir Benfro er mwyn sicrhau fod modd cynnal y gweithgareddau oedd ar waith gan yr aelodau a bod y gweithgareddau hynny yn cael cyn lleied o effaith ag sy’n bosibl ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae’r holl sefydliadau sy’n aelodau, wedi cytuno i ddilyn yr egwyddorion isod wrth gynllunio a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

  • Mae’r holl arweinyddion wedi eu hyfforddi o dan ganllawiau’r corff llywodraethol perthnasol.
  • Os yw’n briodol: Derbyniodd y ganolfan achrediad dan Gynllun Bwrdd Croeso Cymru ar gyfer Darparwyr Gweithgareddau.
  • Os yw’n briodol: Cofrestrwyd y ganolfan gan Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur.
  • Byddwn yn ystyrlon tuag at berchnogion tir a thrigolion ac at eraill sy’n defnyddio’r ardal.
  • Byddwn yn cadw cyswllt clòs ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a gyda pherchnogion tir ar fater defnyddio safleoedd a threfnu gweithgareddau.
  • Byddwn yn cydymffurfio â deddfwriaethau mynediad i gefn gwlad a gyda chytundebau lleol.
  • Byddwn yn ceisio osgoi peri difrod i safleoedd ac aflonyddu ar fywyd gwyllt.
  • Byddwn yn cynorthwyo i ddatblygu Siartr Awyr Agored Sir Benfro ac yn annog eraill i’w mabwysiadu.
  • Fel rhan o’n harweinyddiaeth, byddwn yn ceisio annog cleientiaid i feithrin parch tuag at dirwedd Sir Benfro, ei bywyd gwyllt a’i thrigolion

Wrth i weithgareddau awyr agored gynyddu mewn poblogrwydd ac wrth i fwy a mwy o bobl osod yr amgylchedd o dan bwysau, gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn Sir Benfro fabwysiadu’r cod ymarfer a luniwyd gan Siarter yr Awyr Agored. Bydd hyn yn sicrhau y bydd modd i genedlaethau pell y dyfodol fwynhau Sir Benfro. Mae rhestr o rai o’r gweithgareddau hyn ar gael i’r rhai hynny ohonoch sy’n awyddus i gymryd rhan. Caiff ystyriaethau pwysig hefyd eu rhestru dan bob un o’r gweithgareddau hyn. Ar y llaw arall, os ydych yn dymuno gwneud yn fawr o brofiad un o blith llu aelodau’r grwp, yna chwiliwch am Tystysgrif y Siartr Awyr Agored sy’n cael ei chyflwyno bob blwyddyn i bob aelod gweithredol.

Canwio / Caiacio
Dringo
Arfordiro
Brigo Tonnau
Cerdded
Beicio / Beicio Mynydd
Pysgota
Codes of Conduct

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER