CLOGWYNI PENALUN
Meistr Tir
Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Clwb Golff Dinbych-y-pysgod, Y Parc
Cenedlaethol a pherchnogion preifat. Mae’r maes parcio sydd
drws nesaf i’r orsaf reilffordd yn eiddo i Barc Cenedlaethol
Arfordir Sir Benfro.
Cyfleusterau
- Maes Parcio drws nesaf i’r orsaf drenau.
- Toiledau yn y maes parcio.
- Mynediad i’r traeth mewn cadair olwyn
– ond tywod meddal yw’r traeth ei hun.
- Mae Teleffon Cyhoeddus y tu allan i Wersyll
Penalun.
Disgrifiad
Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig Pentir Lydstep hyd at Dwyni Dinbych-y-pysgod. Mae’r
safle o ddiddordeb arbennig oherwydd y llystyfiant sydd i’w
weld yma ar y forgraig yn ogystal â’r nifer fawr o
blanhigion prin ac anghyffredin, gan gynnwys pump o rywogaethau
sy’n rhai prin yn genedlaethol.
Ymhlith y clogwyni calchfaen carbonifferaidd mae nifer o ogofâu,
bwâu, mordyllau a holltau.
Mae dringo ar hyd y clogwyni yn boblogaidd.
Ni ddylid gosod rhwystrau e.e. rhaffau belai neu gyfarpar arall
ar draws llwybr yr arfordir.
Ni ddylid cysylltu hoelion angori wrth bolion ffens.
Rhaid gofyn caniatâd gan berchennog y tir cyn gosod unrhyw
osodion belai parhaol.
Dylai unrhyw un sy’n canwio oddi ar draeth y De yn Ninbych-y-pysgod
sylweddoli y gall cerrynt cryf ddigwydd o dan rai amodau hinsoddol/llanwol.
Cysylltwch â gwylwyr y glannau am fanylion.
Manylion Pwysig
Gwybodaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae maes tanio Penalun yn rhan o’r ardal hon. Defnyddir
y maes tanio ar gyfer tanio byw. Rhaid i ymwelwyr gydymffurfio
â’r cyfarwyddiadau a’r is-ddeddfau sydd i’w
gweld ar yr hysbysfyrddau. Bydd baneri coch yn hedfan ar adegau
tanio a’r pryd hyn gwaherddir mynediad.
Caiff llwybr yr arfordir ei arallgyfeirio pan fydd tanio’n
digwydd. (Gweler y map)
Manylion Eraill
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o’r clogwyni serth a’r
ffurfiant creigiog a’r perygl sydd ynghlwm wrthynt. Ni ddylid
torri, sathru ar na chodi planhigion na blodau o’u gwraidd.
Dylai dringwyr osgoi ‘garddio’ llwybrau.
Ni ddylid cynnau tanau ac nid oes hawl gwersylla yn yr ardal.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Dylai ymwelwyr sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo
â’i symudiadau ar y diwrnod hwnnw.
Gall y traeth creigiog fod yn sensitif; ni ddylid symud samplau
oddi yno.
Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am lanhau’r Traeth.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Gwersyll Penalun - 01834 842358
TELEFFON CYHOEDDUS DRWS NESAF I WERSYLL PENALUN
Previous Page
|