Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Sir Benfro

PORTH CLAIS

Meistr Tir

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rheolir y blaendraeth ym Mhorth Clais gan Awdurdod yr Harbwr, rheolir mannau eraill gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (APCASB).

Cyfleusterau

  • Toiledau Cyhoeddus.
  • Maes Parcio.
  • Maes picnic.
  • Llithrfa Penllanw Concrit.
  • Mynediad dros y blaendraeth caled i gerbydau sy’n cael eu defnyddio i lansio; codir tâl lansio.

Disgrifiad

Cilfach lanw fechan yw Porth Clais ac ar ystlys y fynedfa iddi gwelir clogwyni tywodfaen isel. Mae’r safle cyfan wedi’i gynnwys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Penrhyn Tyddewi neu Bentir y Sant. Mae arfordir Penrhyn Tyddewi o bwys cenedlaethol oherwydd ei lystyfiant morol, ac yn arbennig felly rostir y forgraig, glaswelltir y forgraig a’r cymunedau sy’n bod mewn agennau/ar ysgafellau. Mae ymylon y graig a’r planhigion sy’n gysylltiedig â hwy hefyd yn gynefinoedd pwysig i anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Defnyddir yr ardal hefyd gan adar sy’n bridio, e.e. Pibydd y Graig (Rock Pipits) a Phioden y Môr (Oyster Catcher).
Defnyddir y safle ar gyfer dringo grwp, oherwydd bod yma ddewis o lwybrau graddau isel i ganolig.
Ceir mynediad drwy abseilio neu ddisgyn ar raff.

Mae’r harbwr yn cynnig amgylchedd diogel, cysgodol ar gyfer canwio.
Gellir lansio cychod o’r harbwr; rheolir mynediad gan yr harbwr feistr ac mae hyn yn ddarostyngedig i’w reoliadau ef; codir tâl.

Manylion Pwysig

Mae Is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol; dylai ymwelwyr gydymffurfio â’r rhain ar bob adeg.
Mae gweithgareddau awyr agored yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar y safle; gall fynd yn brysur iawn yma.
Mae angen i bawb sy’n defnyddio’r safle gymryd gofal ac i fod yn ystyriol er mwyn ateb y gwasgfeuon hyn.
Dylid defnyddio llwybrau sefydledig, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl.
Dylai grwpiau defnyddwyr rheolaidd gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r Parc Cenedlaethol i drafod manylion pellach am y safle.
Dylid trafod llwybrau arfordiro newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dylai grwpiau newydd sy’n defnyddio’r safle ar gyfer arfordiro gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mabwysiadwyd moeseg ‘dim bolltio’ ar draws Sir Benfro yn gyfan.
Mae polion belai ar gael yma; ni ddylid gosod unrhyw bolion newydd heb ymgynghori â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ni ddylai neb ddringo’r odynnau calch.
Dylid osgoi ‘garddio’r’ llwybrau.
Mae’r priddoedd mân uwchlaw’r mannau dringo mwyaf poblogaidd eisoes wedi’u colli; canolbwyntiwch eich gweithgareddau yn y mannau hyn, os gwelwch yn dda, er mwyn osgoi creu mwy o ddifrod.
Dylid gadael cerbydau yn y maes parcio, ac nid ar ymylon y ffyrdd.

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348 837860
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – 01437 764636
  • Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau – 01646 690909
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
  • Harbwr Feistr Porth Clais - 01437 720437

 

Previous Page





 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER