Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Sir Benfro

PORTHGAIN

Meistr Tir

Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Perchnogaeth Breifat

Cyfleusterau

  • Maes Parcio/Toiledau Cyhoeddus/Teleffon Cyhoeddus.
  • Llithrfa.
  • Tafarn, bwyty ac orielau.

Disgrifiad

Nodwedd fwyaf trawiadol Porthgain yw ei gorffennol diwydiannol. Rhoddodd daeareg unigryw Porthgain fod i’r cymysgedd o ddiwydiannau sydd i’w gweld yma - chwarel lechi, gwneud briciau a chynhyrchu cerrig â cherrig mâl. Roedd y diwydiant yn ffynnu rhwng 1841 ac 1931.
Roedd dod o hyd i’r harbwr o’r môr yn dasg anodd, a dyma’r rheswm dros y goleudyrau sydd i’w gweld ar ben y graig ar yr ochr ddwyreiniol a’r ochr orllewinol. Defnyddir yr harbwr heddiw gan longau pysgota a chychod pleser.

Daeareg igneaidd a gwaddodol sydd ym Mhorthgain. Mae’r pentiroedd ym Mhorthgain yn greigiau tanllyd caled dros ben sydd wedi gwrthsefyll erydiad tra mai craig feddalach, waddodol sydd yn y bae. Mae’r safle hwn yn rhan o ardal gadwraeth er mwyn diogelu’r gorffennol diwydiannol hwn ac mae nifer o’r adeiladau bellach yn henebion rhestredig. Trefnodd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro raglen adnewyddu helaeth sy’n cynnwys nifer o’r adeiladau, ac yn eu plith Ty Mawr, sied y peiriannau cerrig, bythynnod y chwarelwyr llechi a chartref y Peilot. Mae’r safle yn frith o greiriau o orffennol diwydiannol yr ardal, ac yn eu plith ceir odynnau calch, gweithfeydd brics a chwareli. Mae nifer o’r arweddion hyn yn beryglus; dylai ymwelwyr beidio â mynd i’w harchwilio er diogelwch iddynt eu hunain.

Gweithgareddau

Plymio. Mae Porthgain yn safle lansio poblogaidd ac oddi yma mae’n hawdd cael mynediad i arfordir gogleddol Sir Benfro sy’n agored a braidd yn anghyfeillgar. Mae’r llithrfa dan reolaeth yr harbwr feistr a chodir tâl sy’n cyfrannu at gynnal a chadw’r harbwr. Er bod y llithrfa wedi ei gwella’n ddiweddar gan y Parc Cenedlaethol, mae ynddi “wyriad” ac ymylfeini serth. Mae chwyn gwyrdd llithrig yn broblem ar adegau. Byddwch yn ofalus wrth barcio trelars, os gwelwch yn dda, gan fod y pentref yn mynd yn brysur iawn ar brydiau. Peidiwch â gadael cychod wedi eu clymu neu heb neb yn edrych ar eu hôl, heb i chi gael caniatâd yr harbwr feistr.

Caiacio. Cyfleoedd da i deithio, i’r dwyrain a’r gorllewin, ond gwyliwch y cerrynt cryf a chadwch yn glir o’r traethau a’r ogofâu sy’n cael eu defnyddio gan forloi yn ystod y tymor magu, os gwelwch yn dda.
Dringo. Cyfyngir dringo ar hyn o bryd i -

1) Chwarel gerrig yr hen ffordd lle ceir, ynghyd â Chwarel Dinbych-y-pysgod, yr unig lwybrau bolltiog yn Sir Benfro. Ni all unrhyw weithgaredd bolltio ddigwydd heb ganiatâd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y tir a thrwy gytundeb gyda Swyddog Mynediad y Cyngor Mynydda Prydeinig. Cafodd y bolltau eu gosod tua chanol yr 1990au ac nid ydynt wedi eu profi na’u harchwilio.

2) Pentir amlwg yw Penclegyr. Prin iawn yw’r llwybrau yno ac mae’r rhain yn addas yn unig ar gyfer partïon bach o ddringwyr profiadol.

Manylion Pwysig

Ni ddylid symud llechi o adeiladau’r chwarel.
Dylid osgoi morthwylio a symud samplau daearyddol.
Dylid cadw’r llithrffordd yn glir ar bob adeg. .
Dylid parcio cerbydau yn y meysydd parcio penodedig.

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348 837860
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – 01437 764636
  • Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau – 01646 690909
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
  • Harbwr Feistr - 01348 831661

 

Previous Page





 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER