SOLFACH
Meistr Tir
Rheolir y maes parcio a’r safle picnic gan Yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r
blaendraeth, yr angorfeydd a’r cei yn cael eu rheoli gan
Gymdeithas Perchnogion Cychod Solfach.
Cyfleusterau
- Maes Parcio.
- Toiledau Cyhoeddus.
- Teleffon Cyhoeddus.
- Maes Picnic.
- Llithrfeydd.
- Angorfeydd.
- Tafarnau, siopau, caffis ac ati yn y pentref.
Disgrifiad
Mae Solfach yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig Arfordir Penrhyn Tyddewi, a ddynodwyd oherwydd ei fod
o ddiddordeb daearyddol a biolegol. Mae Harbwr Solfach yn bwysig
iawn oherwydd y deunydd daearegol sydd yma; mae’n enghraifft
dda o foryd (ria), sef sianel dwr tawdd o’r oes rewlifol
a foddwyd wedi hynny.
Mae’r creigiau yn yr ardal hefyd yn gartref i enghreifftiau
gwych o ffosiliau o’r Oes Gambriaidd.
Mae hanes Solfach hefyd yn bwysig; cychwynnodd fel porthladd bychan
yn yr 1300au ac erbyn yr 1800au roedd wedi datblygu’n ganolfan
fasnach bwysig yn ardal Bae Sain Ffraid.
Yn ystod yr Oes Fictoraidd, pan oedd 10 odyn yn gweithio, Solfach
oedd prif ganolfan losgi calch Penrhyn Tyddewi. Mae rhai o’r
odynnau hyn i’w gweld heddiw ar Ochr Ddwyreiniol yr Harbwr.
Ceir hefyd olion hen gaer ac anheddiad Oes yr Haearn ar yr esgair
sy’n cael ei hadnabod fel ‘Y Gribyn’ ar Ochr
Ddwyreiniol yr harbwr.
Defnyddir yr harbwr heddiw gan gychod pleser yn bennaf.
Gweithgareddau
Plymio. Bu Solfach yn safle lansio poblogaidd ers amser hir.
Rheolir y llithrfeydd gan Gymdeithas Perchnogion Cychod Solfach
a chodir tâl. Mae’r harbwr yn sychu’n gyfan
gwbl ar lanw isel ac oherwydd hyn mae’n amhosibl dychwelyd
cychod plymio mawr i’r lan. Peidiwch â pharcio ar
Gei'r Drindod. Am gyngor neu wybodaeth bellach, cysylltwch â’r
harbwr feistr, os gwelwch yn dda.
Caiacio. Pan fydd y llanw ar ei uchaf, mae harbwr Solfach yn
cynnig lle diogel a chysgodol i ddechreuwyr badlo caiac, tra bod
cyfleoedd mordeithio rhyfeddol i’w cael ar gyfer caiacwyr
mwy profiadol yn yr ardal y tu hwnt i’r creigiau dramatig.
Bydd tâl yn daladwy i Gymdeithas Perchnogion Cychod Solfach
os byddwch yn lansio o Gei'r Drindod neu Gei’r Tywod (Sand
Quay) Mae llynges fechan o gychod dingi yn gweithredu o Solfach
ac mae’r harbwr, o arfer gofal, yn addas i’w ddefnyddio
gan ymwelwyr. Fodd bynnag, dylech ofyn cyngor trigolion lleol
ar gyflwr tebygol y môr cyn mentro y tu allan i’r
harbwr.
Manylion Pwysig
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r
Parc Cenedlaethol yn gymwys i’r safle. Mae is-ddeddfau Cyngor
Sir Penfro yn briodol ar y môr, gan gynnwys cyfyngiad cyflymder
o 8 not.
Ni ddylai’r rhai sy’n astudio daeareg y safle ddefnyddio
morthwylion ac ni ddylid symud samplau.
Dylai grwpiau sy’n dymuno defnyddio’r ardal fel safle
ar gyfer astudiaethau maes gysylltu’n gyntaf â’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dylai pawb sy’n defnyddio parth y llanw ymgyfarwyddo â’i
symudiadau ar y diwrnod hwnnw.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Dylid cadw’r llithrfeydd yn glir ar bob adeg.
Gellir defnyddio’r llithrfa yn y maes parcio i lansio cychod
yn ystod cyfnodau penllanw yn unig.
Mae manylion llanw addas ar gyfer lansio cychod oddi ar lithrfeydd
eraill ar gael oddi wrth Gymdeithas y Perchnogion Cychod.
Ceir lle parcio ar gyfer nifer cyfyngedig o geir yn safle clwb
a llithrfa’r perchnogion cychod.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Archaeoleg Cambria - 01558 823121
- Cymdeithas Perchnogion Cychod Solfach - 01437
721220
- Harbwr Feistr Solfach - 01437 721703
TELEFFON CYHOEDDUS WEDI’I LEOLI YN Y MAES PARCIO
Previous Page
|