STACIAU’R HELIGOG, (STACK ROCKS) I’R
DWYRAIN O’R MAES TANIO
Meistr Tir
Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r Maes Parcio a’r ardal
hyd at y blaendraeth wedi’i osod ar brydles i Awdurdod Parc
Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Cyfleusterau
- Maes Parcio.
- Maes Picnic.
- Teleffonau Argyfwng.
- Mae’n bosibl mynd â chadair olwyn
i ben y graig ac ar hyd llwybr yr arfordir; mae’r tir
yn arw, fodd bynnag.
Disgrifiad
Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig, Ardal Diogelwch Arbennig ac mae’n ymgeisio am
gael ei dynodi yn Ardal Gadwraeth Arbennig. Mae’n gymwys
fel Ardal Diogelwch Arbennig oherwydd bod sawl pâr o frain
coesgoch yn bridio yma. Mae’r clogwyni hefyd yn darparu
safleoedd nythu ar gyfer y Chwilog (Guillemot), Gwalch y Penwaig
(Razorbill) a’r Wylan Goes-ddu (Kittiwake).
Mae rhai o’r enghreifftiau gorau o arweddau creigiog arfordirol
ym Mhrydain i’w gweld rhwng y Wash a Phentir Sant Gofan.
Daeth arweddion megis Pont Werdd Cymru (The Green Bridge of Wales),
Staciau Elegug a Llam yr Heliwr (Huntsman’s Leap) i fod
o ganlyniad i fannau gwan yn y graig.
O fis Mawrth ymlaen, mae’r Staciau yn orlawn o Chwilogod
a Gweilch y Penwaig sy’n nythu ac mae’n hawdd eu gweld
o ben y graig ac maent i’w gweld yn rafftio ar y môr.
Mae yma hefyd lwyfan arsylwi lle gellir gweld Pont Werdd Cymru
sy’n fwa cwbl naturiol.
Yn ogystal â bod yn faes tanio byw, bydd dringwyr creigiau,
cerddwyr ac eraill sy’n frwd dros yr awyr agored yn gwneud
defnydd helaeth o’r safle. Gosodwyd llwybrau dringo ar hyd
rhannau helaeth o’r morlin. Nodwch fod cyfyngiadau dringo
cytunedig ar rai o’r creigiau. Mae manylion am y rhain i’w
gweld ar yr hysbysfyrddau yn y maes parcio ac yn y daflen ‘Cyfyngiadau
Cytunedig ar Ddringo Clogwyni’. Mae moeseg ‘dim bolltio’
yn berthnasol i bob morgraig yn yr ardal. Mae ‘garddio’
yn dinistrio cymunedau bregus mewn agennau ac ar ysgafellau a
dylid osgoi hyn.
Mae rhai mannau ar ben y graig wedi’i herydu’n ddrwg
yn y cyrchfannau dringo mwyaf poblogaidd; os gwelwch yn dda dylech
osgoi gwneud mwy o ddifrod drwy ganolbwyntio eich gweithgareddau
yn y mannau hyn.
Mae yma nifer o safleoedd sy’n addas ar gyfer pysgota môr,
ond unwaith eto, ni ddylid amharu ar safleoedd nythu.
Manylion Pwysig
Gwybodaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn
Defnyddir y maes tanio ar gyfer tanio byw. Rhaid i ymwelwyr gydymffurfio
â’r cyfarwyddiadau a’r is-ddeddfau sydd i’w
gweld ar yr hysbysfyrddau. Bydd baneri coch yn hedfan ar adegau
tanio a’r pryd hyn gwaherddir mynediad i’r safle.
Caiff llwybr yr arfordir ei arallgyfeirio pan fydd tanio’n
digwydd. Ni cheir mynediad i ran Orllewinol y Maes Tanio heb ganiatâd
y Weinyddiaeth Amddiffyn a rhaid mynychu sesiwn gyfarwyddo ar
y maes tanio.
Bydd y Maes Parcio yn cael ei gau, o bosibl, pan fydd tanio yn
digwydd.
Ceir mynediad i lwybr yr arfordir o’r maes parcio. Mae polion
gwyn yn dynodi llwybr yr arfordir. Rhaid i ymwelwyr gadw at ochr
y môr wrth ddilyn y polion hyn. Dyma sy’n dynodi’r
ardal sydd wedi’i chlirio.
Ni ddylid gosod hoelion angori wrth eiddo’r Weinyddiaeth
Amddiffyn a rhaid gofyn am ganiatâd perchennog y tir cyn
gosod unrhyw osodion belai parhaol.
Manylion Eraill
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o’r clogwyni serth a mordyllau.
Nid oes allanfa oddi ar y llwybr arfordirol sy’n mynd tua’r
dwyrain am 5 cilomedr.
Bydd llwybr yr arfordir yn cael ei ailgyfeirio ar hyd y ffordd
i Bosherston pan fydd tanio’n digwydd.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Nid oes hawl gwersylla yn yr ardal.
Dylai beicwyr a’r sawl sy’n marchogaeth ceffylau fynd
ar hyd y llwybr ceffyl penodol yn unig a dylent gadw’n glir
o ben y graig.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Gwersyll Castell Martin – Yn ystod Cyfnodau
Tanio (Twr) - 01646 662336, Oriau Golau Ddydd (Swyddfa’r
Maes Tanio) - 01646 662287, Wedi Oriau (Ystafell Warchod) -
01646 662280
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
TELEFFONAU ARGYFWNG YN Y MAES PARCIO
Previous Page
|