PENRHYN YSTAGBWLL, ABERLLYDAN, BARAFUNDLE A CHEI
YSTAGBWLL
Meistr Tir
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfleusterau
- Meysydd Parcio yn Aberllydan a Chei Ystagbwll.
(Codir tâl yn yr Haf, am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol).
- Teleffon Argyfwng ar ochr y bloc toiledau
yn Aberllydan.
- Teleffon Cyhoeddus yn y fynedfa i’r
bloc toiledau ar Gei Ystagbwll.
- Toiledau Cyhoeddus yn y meysydd parcio.
- Ystafell De ar Gei Ystagbwll (Ar agor mis
Mawrth – Hydref).
- Lansio cychod o Gei Ystagbwll (rhaid cael
caniatâd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Disgrifiad
Mae’r safle yn gorwedd oddi mewn i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig Ystagbwll, Ardal Diogelwch Arbennig ac Ymgeisydd ar gyfer
Ardal Gadwraeth Arbennig. Mae rhan o’r ardal yn Warchodfa
Natur Genedlaethol. Mae hwn yn safle amrywiol o safbwynt biolegol,
ac mae yma ystod eang o gynefinoedd o bwys yn genedlaethol ac
yn rhyngwladol. Mae’r clogwyni yn darparu safleoedd nythu
ar gyfer nythfeydd pwysig o adar - y Chwilog (Guillemot), Gwalch
y Penwaig (Razorbill) a’r Wylan Goes-ddu (Kittiwake) yn
ogystal â’r Frân Goes-goch (Chough).
Ymhlith y clogwyni calchfaen carbonifferaidd mae nifer o ogofâu,
bwâu, mordyllau ac agennau. Mae’r ardal yn boblogaidd
fel man cynnal nifer o weithgareddau awyr agored, a gwneir defnydd
da o’r safle gan ddringwyr creigiau, cerddwyr ac eraill
sy’n frwd dros yr awyr agored.
Gosodwyd llwybrau dringo ar hyd rhannau helaeth o’r morlin.
Nodwch fod cyfyngiadau dringo cytunedig ar rai o’r creigiau.
Mae manylion am y rhain i’w gweld ar yr hysbysfyrddau yn
y maes parcio ac yn y taflenni ‘Cyfyngiadau Cytunedig ar
Ddringo Clogwyni’ sydd ar gael o’r Old World Café
yn Bosherston. Mae moeseg ‘dim bolltio’ yn berthnasol
i bob morgraig yn yr ardal. Mae ‘garddio’ yn dinistrio
cymunedau bregus mewn agennau ac ar ysgafellau a dylid osgoi hyn.
Cafodd llwybrau arfordiro eu cytuno i’w defnyddio o amgylch
y creigiau. Dylai grwpiau newydd sy’n dymuno defnyddio’r
safle gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dylid
trafod unrhyw lwybrau newydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gellir lansio cychod oddi ar Gei Ystagbwll. Gellir gwneud hyn
yn unig gyda chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dylid nodi fod y safle yn rhan o Ardaloedd Perygl Môr Maes
Tanio Castell Martin a Maenorbyr. Cysylltwch â Gwersyll
Castell Martin er mwyn sicrhau fod yr ardal yn ddiogel. Dylai’r
rhai sy’n defnyddio canwau o Aberllydan fod yn ymwybodol
o’r ardal perygl môr.
Manylion Pwysig
Mae is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gymwys
yn yr ardal. Mae’r rhain wedi eu gosod ar hysbysfyrddau
yn y mynedfeydd i’r ystâd. .
Dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol o’r clogwyni serth a’r
ffurfiannau creigiog a’r perygl sydd ynghlwm wrthynt.
Mae’r traeth creigiog yn sensitif; ni ddylid symud samplau
o’r ardal (oni fydd caniatâd wedi ei gael ymlaen llaw
oddi wrth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Gyngor Cefn Gwlad
Cymru.
Ni chaniateir gwersylla yn yr ardal.
Dylid cadw cwn o dan reolaeth ar bob adeg er mwyn osgoi aflonyddu
ar bobl, bywyd gwyllt ac anifeiliaid.
Nid oes hawl seiclo ac eithrio ar ffyrdd a llwybrau ceffyl.
Mae traethau Aberllydan a Barafundle yn cael eu glanhau gan Gyngor
Sir Penfro.
Bydd llwybr yr arfordir yn cael ei ailgyfeirio pan fydd tanio
yn digwydd ar faes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn gerllaw.
Os bydd y maes tanio i gyd ar gau, bydd y llwybr yn dilyn y ffordd
o amgylch y pyllau lili; os bydd rhannau o’r maes tanio
ar agor bydd yn dilyn yr arfordir i Gapel Sant Gofan ac yna ar
hyd y ffordd i’r mewndir. Bydd Baneri Coch yn chwifio yn
ystod amserau tanio.
Rhifau Cyswllt Defnyddiol
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – 01348
837860
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro –
01437 764636
- Gwylwyr y Glannau, Aberdaugleddau –
01646 690909
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru - 01437 766646
- Gwersyll Castell Martin – Yn ystod Cyfnodau
Tanio (Twr) - 01646 662336, Oriau Golau Ddydd (Swyddfa’r
Maes Tanio) - 01646 662287, Wedi Oriau (Ystafell Warchod) -
01646 662280
- Cyngor Sir Penfro - 01437 764551
TELEFFON ARGYFWNG YM MAES PARCIO ABERLLYDAN
TELEFFON CYHOEDDUS AR GEI YSTAGBWLL
Previous Page
|