Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Brigo Tonnau

Brigo Tonnau

Mae Sir Benfro yn enwog am ei thraethau rhyfeddol sy’n gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn yr haf ond sydd hefyd yn darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer brigo tonnau yn ystod gweddill y flwyddyn. Mae’r arfordir o Poppit yn y Gogledd hyd at Saundersfoot yn y de yn cynnig amrywiaeth o draethau a chreigresi sy’n wynebu i bob cyfeiriad o’r Gogledd-Orllewin i’r De-Ddwyrain, felly mae’n ddigon posibl dod o hyd i don i’ch cario yn rhywle neu’i gilydd!

Freshwater West yw’r traeth enwocaf ar gyfer brigo tonnau ac fe ddefnyddir y safle yn rheolaidd ar gyfer cystadlaethau ond mae yna lawer iawn o donnau eraill o safon o gwmpas yr arfordir. Mae’r amodau yn Niwgwl (Newgale) a Phorth Mawr (Whitesands) yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr er bod problemau gorlenwi yn digwydd weithiau os oes nifer fawr o frigwyr, nofwyr, estyll nofio a brigwyr tonnau mewn caiacau i gyd yn y dwr ar yr un pryd. Yn ystod misoedd yr haf, mae’r traethau hynny sydd dan ofal achubwyr bywyd yn cael eu rhannu’n barthau nofio a pharthau brigdonni. Dylai brigwyr tonnau a grwpiau ar ymweliad ofyn i’r achubwyr bywyd am gyngor os nad ydynt yn sicr pa ardaloedd i’w defnyddio pan fydd y traeth yn brysur. Yn y gaeaf, mae digon o siopau beiston yn Hwlffordd, Penfro, Tyddewi ac Aberllydan (Broad Haven) fydd yn barod i roi cyngor a gwybodaeth am amodau brigdonni yn lleol. Ewch i www.masimessurfhut.co.uk/surfreport.htm neu www.newsurf.co.uk am y sefyllfa ddiweddaraf a www.beachwizard.com am wybodaeth leol.

Yn gefndir i rai o’r lleoliadau brigdonni hyn, mae ardaloedd o dwyni tywod bregus ac mae’n bosibl y byddwch yn dod i gyswllt agos â nifer o rywogaethau sy’n byw yn y môr, gan gynnwys morloi, pysgod yr haul, ac, os ydych chi’n anffodus, y môr-wiber sy’n dipyn o boendod. Mae’r cod ymddygiad isod yn rhoi cyngor ar sut y gallwch fwynhau eich sesiwn brigdonni a diogelu’r cynefinoedd arfordirol ar yr un pryd. Gallech hefyd drefnu sesiwn brigdonni gyda threfnwyr lleol sy’n gallu darparu cyfarpar a gwybodaeth leol a fydd, gobeithio, yn rhoi i chi brofiad gwirioneddol gofiadwy.

Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn brigo tonnau yn Sir Benfro:

  • CANIATÂD perchnogion tir – mae hwn yn hanfodol cyn i chi fynd i frigo tonnau. Gall perchnogion tir hefyd fod yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd yn bwysig i chi a’r amgylchedd.
  • GOFYNNWCH am unrhyw godau ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r cyfan, mae rheswm da dros eu bodolaeth.
  • PENDERFYNWCH ar eich man cyfarfod a dewch o hyd iddo cyn i chi fynd i frigo tonnau. Dylech osgoi aflonyddu ar fywyd gwyllt lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer o’r mannau brigdonni poblogaidd, yn arbennig yn ystod y tymhorau nythu a magu (Adar Mawrth - Gorffennaf, Morloi Awst - Chwefror). Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt yn ddiangen; gallech fod yn cyflawni trosedd griminal!
  • GADEWCH yr ardal fel y cawsoch hi.
  • SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol o’r ardal o’ch cwmpas yn ystod eich cyfnod brigdonni; dylech osgoi mynd yn agos i draethau lle mae morloi a’u rhai bach ac ysgafellau nythu.

Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch â’r RSPCA ar 08705 555 999


Previous Page

 

 
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER