Cerdded
Mae Sir Benfro yn gyrchfan poblogaidd i gerddwyr. Llwybr Arfordir
Sir Benfro a Mynyddoedd y Preselau yw’r mannau cerdded sy’n
denu’r mwyafrif. Mae llwybr yr arfordir, sy’n 185
milltir (299km) o hyd, yn ymdroelli o gwmpas yr arfordir ac yn
cynnig golygfeydd ysblennydd o amgylchfyd yr arfordir gan gynnwys
clogwyni uwchlaw’r môr, rhostir, traethau a chilfachau
a dyma un o’r 18 Llwybr Cenedlaethol sydd i’w gweld
yn y DU. Mae’r llwybr yn addas iawn ar gyfer cerddwyr o
bob math ac mae’n cynnig dewis o deithiau cerdded byr, hamddenol
neu lwybrau hirach, mwy heriol. Mae pob llwybr bron yn rhoi cyfle
i chi brofi rhywfaint o letygarwch Sir Benfro wrth i chi fynd
ar eich taith.
Cewch olwg ar y sir o bersbectif arall ar Fynyddoedd y Preselau.
Maent yn codi i uchder o 536 metr ac yn cynnig golygfeydd hynod
drawiadol ar draws y sir yn ogystal â’r ‘Heol
Aur’, llwybr 7 milltir o hyd sy’n cysylltu anheddau
hynafol y Celtiaid ar hyd crib y Preselau.
Mae’r teithiau ar hyd Llwybr yr Arfordir a thrwy fynyddoedd
y Preselau wedi’u mapio’n dda ac mae nifer o daflenni
ar gael oddi wrth fudiadau lleol fel Awdurdod y Parc Cenedlaethol
a Lonydd Glas Sir Benfro (Pembrokeshire Greenways). Ochr yn ochr
â’r llwybrau hyn mae oddeutu 453 milltir o ffyrdd
yn y sir sy’n dilyn llwybrau ceffyl a llwybrau troed mewndirol
a phob un ohonynt yn rhoi cyfle i chi fwynhau golygfeydd a chynefinoedd
aber y Cleddau a mannau eraill.
Daeth cerdded llwybr yr arfordir yn gamp haws o lawer pan gychwynnwyd
gwasanaeth bws y Pâl Gwibio (Puffin Shuttle) sy’n
mynd yn ôl a blaen ar draws y sir. Bu’r gwasanaeth
gwennol hwn yn llwyddiant mawr ac mae’n galluogi cerddwyr
i gynllunio teithiau cerdded na fyddai modd iddyn nhw o bosibl
eu cyflawni pe baent yn teithio i’r man cychwyn mewn car.
Ceir mwy o wybodaeth am yr amserlenni ar gyfer y flwyddyn i ddod
yn. Drwy gydol y flwyddyn, bydd arbenigwyr lleol yn trefnu teithiau
cerdded tywysedig ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir
Benfro. Yn ystod y teithiau hyn ceir sylwebaeth ar y fflora a
ffawna sydd i’w gweld ar y ffordd a chewch oleuni pellach
hefyd ar arfordir Sir Benfro ei hun.
Dylech ystyried y canlynol pan fyddwch yn cerdded yn
Sir Benfro:
- SIARADWCH â chanolfannau
Gwybodaeth, awdurdodau lleol a pherchnogion tir cyn i chi gerdded
a mynnwch ganiatâd, yn arbennig os nad ydych yn cerdded
ar hyd llwybr yr arfordir. Mae’n bosibl y byddan nhw hefyd
yn ymwybodol o wybodaeth leol fydd yn bwysig i chi a’r
amgylchedd.
- EWCH ADREF gan wybod eich
bod wedi gadael yr ardal mor ddigyffwrdd ag oedd pan gyrhaeddoch
yno a’i bod yn barod i eraill ei mwynhau eto.
- SICRHEWCH eich bod yn ymwybodol
o’r ardal o’ch cwmpas ar bob adeg yn ystod eich
taith gerdded; dylech osgoi crwydro oddi ar lwybrau dynodedig.
Mae’n hawdd iawn i chi niweidio neu ddinistrio nifer o’r
planhigion prin sydd i’w gweld ar rai o’r llwybrau
hyn drwy gamu arnynt.
- GOFYNNWCH am unrhyw godau
ymddygiad lleol, is-ddeddfau ac amodau yn ogystal ag arferion
da cyffredinol a chanllawiau diogelwch a dilynwch nhw. Wedi’r
cyfan, mae rheswm dros eu bodolaeth.
- PENDERFYNWCH ar eich llwybr
a gwnewch ymchwil arno cyn i chi gychwyn. Dylech osgoi aflonyddu
ar fywyd gwyllt lle bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae
sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt yn byw yn, ar neu o amgylch nifer
o’r llwybrau a’r lonydd poblogaidd hyn, yn arbennig
yn ystod y tymhorau nythu a magu (Adar Mawrth - Gorffennaf,
Morloi Awst - Chwefror). Dylech osgoi tarfu neu aflonyddu arnynt
yn ddiangen; gallech fod yn cyflawni trosedd griminal!
Os gwelwch unrhyw anifail neu aderyn gwyllt
sydd, yn eich barn chi, wedi ei anafu neu mewn cyfyngder, cysylltwch
â’r RSPCA ar 08705 555 999
Previous
Page
|