Skip navigation and go to main content
Pembrokeshire Outdoor Charter Group
Bywyd Gwyllt

Bywyd Gwyllt

Mae gan Sir Benfro ddewis helaeth o gynefinoedd gwahanol ac amrywiol, o Fynyddoedd y Preselau i draethau tywodlyd ac aberoedd. O ganlyniad, mae Sir Benfro yn gartref i filoedd o wahanol rywogaethau o fywyd gwyllt. Mae nifer fawr o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yn rhai digon cyffredin, ond mae rhai, megis y Frân Goesgoch, yn aderyn prin ym Mhrydain. Gwelir eraill, fel Llygoden Ddwr Sgomer, yn y sir hon yn unig. Oherwydd pwysigrwydd y cynefinoedd sydd i’w gweld yn Sir Benfro, cafodd nifer o’r ardaloedd hyn eu dynodi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol fel mannau gwarchod a diogelu natur.

Mae’r cysylltiadau bywyd gwyllt a ddarparwyd yma (drwy garedigrwydd gwefannau Arkive a Marlin), er nad ydynt yn ymwneud yn benodol â Sir Benfro, yn darparu swm sylweddol o wybodaeth am rywogaethau bywyd gwyllt sy’n gyffredin i’r Deyrnas Unedig, tra bod nifer ohonynt i’w gweld yn byw ac yn magu ym mynyddoedd a dyfroedd Sir Benfro.

 

 

  Link to species above water   Link to species below water
  Above Water   Below Water
 

 

   
  Spacer
 

Enquiries: Pembrokeshire Outdoor Charter Group, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER